Tewdrig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Brenin Gwent a Glywysing yn ne Cymru a sant a ferthyrwyd yn ymladd y Sacsoniaid oedd '''Tewdrig''' neu '''Tewdrig ap Llywarch''' (Lladin: ''Theodori... |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Brenin [[Teyrnas Gwent|Gwent]] a [[Glywysing]] yn ne Cymru a [[sant]] a ferthyrwyd yn ymladd y [[Sacsoniaid]] oedd '''Tewdrig''' neu '''Tewdrig ap Llywarch''' ([[Lladin]]: ''Theodoricius''/''Theodoric'') (tua [[580]] - [[630]]).
Yn ôl hanesyn a geir yn ''[[Llyfr Llandaf]]'' ([[12fed ganrif]]), roedd Tewdrig yn fab i naill ai i Lywarch neu Teithfall o Went, a roddodd lawer o dir i [[clas|glas]] [[Eglwys Gadeiriol Llandaf|Llandaf]]. Ymddeolodd fel brenin er mwyn mynd yn feudwy yn [[Abaty Tyndyrn|Nhyndyrn]] ac fe'i olynwyd gan ei fab, [[Meurig ap Tewdrig|Meurig]], tad [[Athrwys ap Meurig]]. Ond pan groesodd y Sacsoniaid [[Afon Hafren]] dan arweiniad [[Ceolwulf o Wessex|Ceolwulf]] tua'r flwyddyn [[630]], gan anrheithio nifer o glasau ac eglwysi, daeth Tewdrig allan o'i ymddeoliad i gynorthwyo ei fab ac amddiffyn yr eglwys yn erbyn y "[[pagan]]iaid" Seisnig. Gorchfygodd Tewdrig a Meurig y Sacsoniaid ym mrydr Pont y Saeson, ger
Cododd y brenin Meurig eglwys yn y man a chladdodd ei dad yno a rhoi'r tir o amgylch i [[Esgob Llandaf|Esgobion Llandaf]]. Galwyd y llecyn yn Ferthyr Tewdrig (pentref [[Mathern]] ar lan [[afon Gwy]] heddiw). Ond mae rhai haneswyr yn meddwl mai ger [[Caerfaddon]] yr ymladdwyd y frwydr ac i Dewdrig gael ei gladdu ar ei ffordd adref.
|