Cynan ab Iago: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 7:
:''Ei dad oedd Cynan, frenin Gwynedd, a'i fam oedd Ragnell ferch Afloedd (Olaf Arnaid), frenin dinas Dulyn a phumed ran Iwerddon'' (orgraff ddiweddar).
 
Fodd bynnag, nid oes cofnod arall i Gynan deyrnasu ar Wynedd. Yn ôl ''Historie of Cambria'' gan [[David Powel]], ceisiodd ddwywaith i ennill y deyrnas gyda chymorth llynges o Ddulyn. Yn [[1041]], llwyddodd i gymeryyd Gruffudd ap LLywelyn yn garcharor, and gallodd gwŷr Gruffudd ei ryddhau yn fuan. Yn [[1052]], gwasgarwyd ei longau gan storm fawr. Lladdwyd Gruffudd ap Llywelyn gan ei ŵyr ei hun yn [[1063]] yn ôl y rhan fwyaf o ffynonellau, ond dywed Brut Wlster mai Cynan ab Iago a'i lladdodd yn [[1064]].
 
Gellir casglu o Hanes Gruffudd ap Cynan fod Cynan wedi marw pan oedd Gruffudd yn ieuanc. Pan ddychwelodd Gruffudd ap Cynan i hawlio teyrnas Gwynedd yn ddiweddarach, cyfeirid ato fel "wyr Iago" yn hytrach na "Mab Cynan", sy'n awgrymu nad oedd Cynan yn adnabyddus yng Nghymru .