Gwenhwyfar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
'''Gwenhwyfar''' ([[Lladin]]: ''Guinhumara'', [[Ffrangeg]]: ''Guenièvre'', [[Saesneg]]: ''Guinevere'') oedd gwraig y brenin [[Arthur]]. Disgrifir hi mewn rhai ffynonellau Cymraeg fel merch i Ogrfran Gawr, ac mae traddodiad fod iddi chwaer o'r enw Gwenhwyfach.
 
Ymddengys mewn nifer o testunau Cymreig, er enghraifft, crybwyllir hi yn chwedl ''[[Culhwch ac Olwen]]'', er nad oes ganddi ran fawr yn y stori. Ceir cyfres o hen englynion gyda'r teitl ''Ymddiddan Arthur a Gwenhwyfar'', sydd efallai wedi goroesi o chwedl goll gynnar amdani. Ym Muchedd [[Gildas]] o waith [[Caradog o Lancarfan]], dywedir i [[Melwas]], brenin ''Aestiva Regio'' ([[Gwlad yr Haf]]), ei chipio a'i chadw'n garcharor. Ymddengys y chwedl yma yng ngwaith [[Chrétien de Troyes]] hefyd. Mae fersiwn [[Sieffre o Fynwy]] o'r digwyddiad yn ei ''[[Historia Regum Britanniae]]'' ychydig yn wahanol; dywed iddi odinebu gyda [[Medrod]], nai Arthur, a gorffen ei hoes fel [[lleian]] yng [[Caerllion ar Wysg|Nghaerllion ar Wysg]]. Ceir nifer o gyfeiriadau ati yn [[y Tair Rhamant]].
 
Yn y fersiynau diweddarch o chwedlau Arthur, mae Gwenhwyfar yn cynnal carwriaeth a [[Lawnsalot]], ac mae hyn yn y pen draw yn arwain at [[Brwydr Camlan|Frwydr Camlan]] a dinistr y deyrnas. Mae traddodiad arall fod y cweryl rhwng Arthur a Medrawd wedi dechrau fel ffrae rhwng Gwenhwyfar a'i chwaer Gwenhwyfach.