Gwalchmai ap Gwyar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 20:00, 6 Mawrth 2008
Cymeriad a gysylltir a'r chwedlau am y brenin Arthur yw Gwalchmai ap Gwyar, hefyd Gwalchmei (Lladin: Gualguainus, Ffrangeg: Gauvain, Saesneg: Gawain).
Ymddengys Gwalchmai fel un o ŵyr Arthur yn chwedl Culhwch ac Olwen, lle disgrifir ef fel nai i Arthur. Yn Llyfr Du Caerfyrddin enwir ei farch fel Ceingaled, a dywedir fod ei fedd ym Mheryddon. Dywed William o Malmesbury yn ei De Rebus Gestis Anglorum iddo deyrnasu mewn rhan o Brydain a eilw yn Walweitha, a dywed fod ei fedd yn Rhos. Ceir yr enw Castell Gwalchmai yn y cantref hwnnw.