Gwalchmai ap Gwyar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Cymeriad a gysylltir a'r chwedlau am y brenin [[Arthur]] yw '''Gwalchmai ap Gwyar''', hefyd '''Gwalchmei''' ([[Lladin]]: ''Gualguainus'', [[Ffrangeg]]: ''Gauvain'', [[Saesneg]]: ''Gawain'').
 
Ymddengys Gwalchmai fel un o ŵyr Arthur yn chwedl ''[[Culhwch ac Olwen]]'', lle disgrifir ef fel nai i Arthur. Yn [[Llyfr Du Caerfyrddin]] enwir ei farch fel Ceingaled, a dywedir fod ei fedd ym Mheryddon. Dywed [[William o Malmesbury]] yn ei ''[[De Rebus Gestis Anglorum]]'' iddo deyrnasu mewn rhan o Brydain a eilw yn Walweitha, a dywed fod ei fedd yn [[Rhos (cantrefDyfed)|Rhos]]. Ceir yr enw [[Castell Gwalchmai]] yn y cantref hwnnw.
 
Mae'n gymeriad pwysig yn ''[[Historia Regum Britanniae]]'' [[Sieffre o Fynwy]], lle mae'n un o farchogion gorau Arthur ac yn eifedd posibl i'r deyrnas nes iddo gael ei ladd gan ŵyr [[Medrawd]]. Mae'r testun anghyflawn diweddarach ''Genedigaeth Arthur'' yn gwneud [[Gwyar]], mam Gwalchmai a chwaer Arthur, yn briod i Emyr Llydaw ac felly'n fam i [[Hywel ab Emyr Llydaw]].