Lindsay Ashford: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Nofelydd trosedd a newyddiadurwraig Seisnig yw '''Lindsay Ashford''' (ganwyd [[23 Ionawr]] [[1959]]). Mae ei harddull ysgrifennu wedi cael ei chymharu â gwaith [[Vivien Armstrong]], [[Linda Fairstein]] a [[Frances Fyfield]]. Mae nifer o'i nofelau'n dilyn y cymeriad Megan Rhys, seicolegydd ymchwiliol.
 
Fe'i magwyd yn Wolverhampton, [[Lloegr]] a hi oedd y ferch gyntaf i raddio o [[Coleg y Breninesau, Caergrawnt|Goleg y Breninesau, Caergrawnt]] yn ei hanes 550 mlynedd o hyd. Enillodd radd mewn [[Troseddeg]]. Cyflogwyd Ashford fel newyddiadurwraig gan y [[BBC]] cyn iddi ddechrau weithio'n lawrydd, gan ysgrifennu ar gyfer amryw o bapurau newydd a chylchgronau. Mynychodd Ashford gwrs ysgrifennu trosedd a redwyd gan y Arvon Foundation ym 1996. Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf, ''Frozen'', gan [[Honno]] yn 2003.