Cai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Image:Sir Kay breaketh his sword.jpg|thumb|200px|''Syr Cai yn torri ei gleddyf mewn twrnamaint'', gan [[Howard Pyle]]]]
 
Cymeriad a gysylltir a'r brenin [[Arthur]] mewn chwedlau Cymreig yw '''Cai fab Cynyr''' neu '''Cai Hir'''. Ymddengys yn chwedl ''[[Culhwch ac Olwen]]'', lle mae'n cynorthwyo Culhwch i gyflawni'r tasgau a roddwyd iddo gan [[Ysbaddaden Bencawr]] er mwyn iddo gael priodi [[Olwen]]. Cai sy'n cyflawni'r dasg gyntaf, sef cael cleddyf Wrnach Wyddel. Ef hefyd, gyda [[Bedwyr]], sy'n teithio ar ysgwydd [[Eog Llyn Llyw]] i gael hyd i'r carcharor [[Mabon fab Modron]]. Mae'n cael barf y cawr [[Dillus Farfog]] i wneud cynllyfan ar gyfer yr helgi Drudwyn; ond mae'n ffraeo ag Arthur pan mae Arthur yn canu englyn yn ei watwar am daro Dillus pan fo'n cysgu. Ymddengys hefyd yn y gerdd ''[[Pa Gwr yw y Porthawr|Pa [g]ŵr yw y porthor?]]'' yn ''[[Llyfr Du Caerfyrddin]]'' (o tua'r [[10fed ganrif]]), lle dywedir iddo orchfygu cath enfawr, [[Cath Palug]].
 
Yn [[y Tair Rhamant]], mae Cai yn gymeriad pwysig, ac ymddengys yn chwedl ''[[Breuddwyd Rhonabwy]]'' hefyd. Yn y chwedlau hyn, mae'n gymeriad mwy tebyg i'r hyn ydyw yn y chwedlau Arthuraidd Ffrengig a Seisnig. Ymddengys fel "Keu" yn [[Ffrangeg]] a "Kay" yn [[Saesneg]]. Dywedir yn y chwedlau hyn ei fod yn fab i Ector, a fabwysiadodd Arthur wedi i'r dewin [[Myrddin]] ei ddwyn ymaith oddi wrth ei rieni, [[Uthr Bendragon]] ac [[Eigr]].