Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Kemper"

Ychwanegwyd 173 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
B
lluniau
B (lluniau)
[[Image:Bretagne Finistere Quimper 20072.jpg|bawd|300px|Afon Oded yng nghanol Kemper]]
 
Tref yn [[Llydaw]] yw '''Kemper''' ([[Ffrangeg]]: '''Quimper'''; [[Lladin]]: '''Corspotium'''). Roedd y boblogaeth yn 67,127 yn [[1999]]. Kemper yw prifddinas ''departamant'' [[Penn-ar-Bed]], a hen brifddinas [[Bro Gerne]].
 
Mae ''kemper'' yn Llydaweg yr un gair â "cymer" afon yng Nghymraeg; mae [[Afon Steir]], [[Afon Oded]] ac [[Afon Jet]] yn cyfarfod yma. Mae hanes y dref yn mynd yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid. Erbyn 495 roedd y dref yn esgobaeth. Yr adeiladau mwyaf nodedig yw Eglwys Locmaria, sy'n dyddio o'r [[11eg ganrif]], a'r eglwys gadeiriol a adeiladwyd rhwng y [[13eg ganrif]] a'r [[16eg ganrif]]. Mae'r eglwys gadeiriol wedi ei chysegru i [[Corentin|Sant Corentin]], esgob cyntaf Kemper; o'i blaen ceir cerflun yn dangos Gralon, brenin [[Kêr-Ys]], ar gefn ceffyl yn edrych i gyfeiriad ei ddinas foddedig.
 
Mae ysgolion [[Diwan]] yn y dref.
 
<gallery widths="200px" heights="200px">
Delwedd:arbedkeltiekkemper.png|Siop cerdd a llyfrau ''Ar Bed Keltiek''
Delwedd:keltiakemper.png|Siop ''Keltia Musique''
</gallery>
 
==Pobl enwog o Kemper==
*[[Dan Ar Braz]], cerddor
 
 
[[Categori:Penn-ar-Bed]]
894

golygiad