Y Greal Santaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 8:
 
Yn Gymraeg, nid yw ''[[Peredur fab Efrawg]]'' yn [[y Tair Rhamant]] yn crybwyll y Greal wrth ei enw, er bod y Greal yn elfen bwysig yn y fersiwn Ffranged cyfatebol, ''[[Perceval, le Conte du Graal]]'' gan [[Chrétien de Troyes]], lle mae Perceval yn cyfarfod y [[Brenin-Bysgotwr]] sydd wedi ei anafu, ond nid yw'n gofyn y cwestiwn a fyddai wedi ei iachau. Pan ddaw i wybod am hyn, mae'n ymdynghedu i gael hyd i gastell y Greal. Daw'r cyfeiriad cyntaf at yr enw yn Gymraeg yn ''[[Ystoryaeu Seint Greal]]'', cyfeithiad yn y [[14eg ganrif]] o ddau destun [[Ffrangeg]] cynharach.
 
Mewn fersiynau diweddarach o stori'r Greal yn Ffrangeg a Saesneg, [[Galahad]], mab [[Lawnslot]], yw'r unig farchog sy'n ddigon pur i lwyddo yn yr ymchwil am y Greal.
 
Yn ddiweddarach, cysylltwyd y Greal a phlasdy [[Nanteos]] yng [[Ceredigion|Ngheredigion]]. Roedd llestr yno a elwid wrth yr enw Cwpan Nanteos. Dywedid mai hwn oedd y Greal, wedi ei gludo o [[Ynys Wydrin]] i [[Abaty Ystrad Fflur]] ac yna i Nanteos.