Llyfr Blegywryd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: '''''Llyfr Blegywryd''''' yw'r term a ddefnyddir gan ysgolheigion i ddynodi'r dull ar y Cyfreithiau Cymreig canoloesol a ddatblygodd yn Nyfed yn ...
 
ehangu
Llinell 2:
 
Y prif nodweddion ar y grŵp o lawysgrifau a elwir yn ''Llyfr Iorwerth'' mewn cymhariaeth a'r dulliau eraill yw:
*Yn ôl traddodiad, golygwyd y Gyfraith yn y dull hwn gan gŵr o'r enw Blegywryd ''ysgolhaig'', clerigwr (fe ymddengys) o Ddyfed a ddewiswyd gan y brenin [[Hywel Dda]] i ysgrifennu'r drefn newydd ar gyfreithiau Cymru a wnaed yn ei deyrnasiad ef (yn ôl testunau ''Llyfr Blegywryd''). Ceir cyfeiriad at un Blegywryd fab Owain (''Bledcuirit filius Eniaun'') dan gofnod am y flwyddyn 955 yn ''[[Llyfr Llandaf]]'', ond ni ellir profi'r uniaethiad ag awdur ''Llyfr Blegywryd'' yn derfynnol. Awgrymodd Syr [[J. E. Lloyd]] ei fod yn ŵr o Went.
*''Llyfr Blegywryd'' yw'r mwyaf "ceidwadol" o'r tri Dull o ran trefn a chynnwys.
*Ceir rhai adrannau a gysylltir yn arbennig â Dyfed ac yn enwedig trefn eglwysig y dalaith honno, er enghraifft Saith Esgobty Dyfed. Awgryma hyn mai clerigwr neu glerigwyr fu'n gyfrifol am y Dull a gellid cynnig ei fod yn gysylltiedig â [[Tyddewi]].
*Yn yt un modd ag y mae ''Llyfr Iorwerth'' yn pwysleisio safle arbennig llys [[Aberffraw]] yng Ngwynedd, ceir pwyslais ar bwysigrwydd [[Dinefwr]], safle llys brenninoedd [[Deheubarth]].
Llinell 16:
[[Categori:Llawysgrifau Cymreig]]
[[Categori:Teyrnas Dyfed]]
[[Categori:Teyrnas Deheubarth]]