Richard Fitz Gilbert de Clare, 2il Iarll Penfro: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 9:
Nid oedd Henri yn barod i'w gynorthwyo yn bersonol, ond gyrrodd ef at Richard ac eraill o farwniaid y [[Mers]]. Roeddynt hwy'n awyddus i gymeryd rhan yn yr ymgyrch gan fod grym cynyddol [[Rhys ap Gruffudd]] o [[Deheubarth|Ddeheubarth]] yn golygu nad oedd lawer o obaith iddynt ychwanegu at eu meddiannau yng Nghymru. Aeth y rhan gyntaf o'r fyddin drosodd i Iwerddon yn [[1169]], ac ymunodd Richard a hwy yn Awst [[1170]]. Cipiwyd [[Wexford]], [[Waterford]] a [[Dulyn]], a'r diwrnod ar ôl cipio Waterford, priododd Richard ferch MacMorrough, [[Aoife o Leinster]].
Erbyn hyn roedd Henri II yn pryderu fod Richard yn bwriadu sefydlu teyrnas Normanaidd annibynnol yn Iwerddon, a gorchymynodd i'r fyddin ddychwelyd erbyn [[Pasg]] [[1171]]. Ym mis Mai y flwyddyn honno bu farw Diarmuid died, a hawliodd Richard orsedd Leinster. Bu gwrthryfel yn ei erbyn, a bu raid iddo ofyn i Henri II am gymorth. Daeth Henri a byddin i Iwerddon ym mis Hydref [[1172]], gan gymeryd y rhan fwyaf o'r deyrnas iddo'i hun; dim ond [[Kildare]] a adawyd i Richard.
 
Bu Richard yn ymladd dros Henri yn [[Normandi]] yn [[1173]], pan wrthryfelodd meibion Henri yn ei erbyn. Fel gwobr, dychwelwyd Leinster iddo a gwnaed ef yn llywodraethwr Iwerddon. Bu raid iddo wynebu nifer o wrthryfeloedd cyn iddo farw yn [[1176]]. Clawddwyd ef yn Eglwys Crist, Dulyn, lle mae ei fedd i'w weld. Mae [[Gerallt Gymro]] yn ei ddisgrifio fel gŵr tal, gwallt golau, doeth ei gyngor a phoblogaidd gyda'i filwyr. Gadawodd fab, Gilbert, a fu farw yn [[1185]], a merch Isabel, a briododd [[William Marshal, Iarll 1af Penfro|William Marshal]]. O ganlyniad i'r briodas daeth William Marshal yn Iarll Penfro.