Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Peiriant ager"

Lleihawyd o 28 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
B
→‎top: Uchafswm Limit = 20 ar Restr Wicidata; ayb, replaced: 19eg ganrif19g (2), 18fed ganrif18g using AWB
No edit summary
B (→‎top: Uchafswm Limit = 20 ar Restr Wicidata; ayb, replaced: 19eg ganrif19g (2), 18fed ganrif18g using AWB)
[[Delwedd:Preserved steam engine, University of Glamorgan - geograph.org.uk - 1659257.jpg|bawd|Peiriant Calvert ym [[Prifysgol Morgannwg|Mhrifysgol Morgannwg]]]]
[[Delwedd:Parowoz Pm36-2.jpg|bawd|220px|Am tua chanrif a hanner, peiriannau ager a ddefnyddid ar y rheilffyrdd trwy'r byd. Mae'r injan hon yng [[Gwlad Pwyl|Ngwlad Pwyl]].]]
 
Unrhyw [[peiriant|beiriant]] sy'n defnyddio [[ager]] (neu "stêm") fel pŵer yw '''peiriant ager'''. Daeth y peiriannau hyn yn arbennig o bwysig tua diwedd y [[18fed ganrif18g]] ac yn ystod yn [[19eg ganrif19g]].
 
Ceir cofnod am beiriant ager tua [[80]] OC, peiriant a elwid yr [[aeolipile]] a ddisgrifir gan [[Hero o Alexandria]]. Nid oes cofnod i beiriant ager gael ei ddefnyddio ar gyfer pwrpas ymarferol yn y cyfnod yma, fodd bynnag. Yn [[1712]] datblygodd [[Thomas Newcomen]] beiriant ager y gellid ei ddefnyddio, er enghraifft mewn mwyngloddiau. Datblygwyd y peiriant gan [[James Watt]], a gynhyrchodd beiriant oedd yn defnyddio 75% yn llai o [[glo|lo]] i gynhyrchu'r ager na pheiriant Newcomen, ac y gellid ei ddefnyddio i redeg peiriannau ffatrioedd diwydiannol. Cafodd hyn ddylanwad aruthrol ar ddatblygiad y [[Chwyldro Diwydiannol]].
 
Dangosodd y peiriannydd Trevithick y gellid defnyddio peiriant ager (neu [[injan stêm]]) i dynnu tren rheilffordd. Gwnaeth hyn ar dramffordd Pen y Darren. Defnyddid injenni stêm ar Reilffordd Stockton a Darlington ond ''Rocket'' a enillodd cystadleuaeth [[Treialon Rainhill]] oedd yr injan a ddangosodd wir botensial y peiriant. Un o nodweddion yr injan hon oedd bwyler gyda nifer o diwbiau tan i hwyluso berwi dwr y bwyler.
 
Erbyn dechrau'r [[19eg ganrif19g]], roedd peiriannau ager wedi dod yn bwysig mewn trafnidiaeth, ar gyfer [[trên|trenau]] a [[llong]]au. Erbyn hyn, mae llai o ddefnydd arnynt, ond mae ymchwil yn parhau ar dechnoleg peiriannau ager. Er enghraifft, defnyddir pwer yr haul yn Sbaen wedi'i ffocysu ar beiriant ager mawr, a hwnnw yn ei dro'n roi tyrbein ac yn creu trydan.<ref>[http://news.bbc.co.uk/2/hi/science/nature/6616651.stm Gweler eitem gan y BBC ar y datblygiad cyfoes hwn yn Sbaen]</ref>
 
==Gweler hefyd==
452,433

golygiad