Eglwys Gadeiriol Bangor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 15fed ganrif15g, 13eg ganrif13g, 6ed ganrif6g using AWB
B →‎top: Uchafswm Limit = 20 ar Restr Wicidata; ayb, replaced: Glyndŵr → Glyn Dŵr using AWB
Llinell 8:
Dinistriwyd yr eglwys gan luoedd y brenin [[John o Loegr]] yn [[1210]] pan ymosododd ar [[Teyrnas Gwynedd|Wynedd]] wedi iddo gweryla a [[Llywelyn Fawr]]. Fe'i adeiladwyd o'r newydd bron yn y [[13g]]. Bu cryn ddifrod i'r eglwys gaderiol pan ymosododd [[Edward I, brenin Lloegr]] ar Wynedd yn [[1282]], ac yn [[1284]] rhoddwyd y swm o £60 yn iawndal am y difrod.
 
Dywedir i'r eglwys gadeiriol gael ei llosgi yn ystod gwrthryfel [[Owain GlyndŵrGlyn Dŵr]], ond nid oes tystiolaeth o'r cyfnod i gadarnhau hyn. Bu ail-adeiladu ar raddfa fawr o ddiwedd y [[15g]], a orffennwyd yn [[1532]]. Mae arysgrif [[Lladin]] uwchben drws y twr yn cofnodi fod yr Esgob [[Thomas Skevington]] wedi ei adeiladu yn 1532, er nad oedd wedi ei orffen pan fu farw Skevington yn [[1533]]. Gwariwyd £2,000 ar drwsio'r adeilad yn [[1824]], a newidiwyd y tu mewn yn [[1825]] ar gost o £3252.
 
Mae'r adeilad fel y gwelir ef heddiw yn ffrwyth ail-adeiladu helaeth dan oruchwyliaeth Syr [[George Gilbert Scott|Gilbert Scott]] a ddechreuwyd yn [[1868]]. Yr oedd cynllun gwreiddiol Scott yn galw am dŵr uchel, ond ni allwyd ei orffen gan fod craciau yn dechrau ymddangos. Ofnid fod hyn yn arwydd o broblemau gyda'r sylfaen, a gadawyd y tŵr yn isel.