Pidyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
Mh96 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 22:
Fel gyda sawl priodwedd gorfforol arall, mae hyd a lled y pidyn yn amrywio'n fawr rhwng unigolion. Mae maint y pidyn llipa yn llai na maint pidyn codedig o lawer. Yn ogystal, mae'r gwahaniaeth rhwng maint y pidyn yn ei gyflyrau llipa a chodedig yn amrywio cymaint, fel na ellir darogan y maint codedig o wybod y maint llipa. Ac eithrio achosion eithafol, does dim cydberthyniad rhwng gallu atgenhedliol neu rywiol a maint y pidyn.
==Mewn llenyddiaeth Gymraeg==
Ysgrifennodd y [[Bardd|bardd]] enwog [[Dafydd ap Gwilym]] am y pidyn ("y gal") yn ei gerdd enwog, ''[[Cywydd y gal]]''. Yn y gerdd mae'n rhestru llawer o gyfystyron ar gyfer y pidyn.
Yn awdl arobryn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1991]] canodd y Prifardd [[Robin Llwyd ab Owain]] hefyd am y pidyn gan ei gymharu i: gleddyf ('Clun ynglun, gweinied fy nghledd' ), 'pinwydden' a 'choeden'.