Canu Heledd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Cyfres o englynion saga yn dyddio o'r 9fed neu'r 10fed ganrif yw '''Canu Heledd'''. Y siaradwr yn yr englynion yw Heledd, chwaer Cynddylan, brenin rhan dd...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:39, 12 Mawrth 2008

Cyfres o englynion saga yn dyddio o'r 9fed neu'r 10fed ganrif yw Canu Heledd. Y siaradwr yn yr englynion yw Heledd, chwaer Cynddylan, brenin rhan ddwyreiniol Teyrnas Powys yn y 7fed ganrif.

Mae Cynddylan wedi ei ladd (wrth frwydro yn erbyn yr Eingl-Sacsoniaid yn ôl pob tebyg, a'i lys yn wag a thywyll. Cysylltir Cynddylan a llys Pengwern.

stauell gyndylan ys tywyll heno,
heb dan, heb wely.
wylaf wers; tawaf wedy.

Mae'r nofelwraig Rhiannon Davies-Jones wedi ysgrifennu nofel am hanes Cynddylan, Heledd a Pengwern, o'r enw Eryr Pengwern.

Llyfryddiaeth

  • Ifor Williams (gol.) Canu Llywarch Hen: gyda rhagymadrodd a nodiadau (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1935)

Cysylltiad allanol