Abaty Glyn y Groes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
LM
BDim crynodeb golygu
Llinell 6:
Er bod yr abaty yn bur adfeiliedig, gellir gweld y cynllun yn glir. Mae'n dilyn y cynllun Sistersaidd arferol, gyda lle cysgu i tua 20 o fynachod ac efallai tua 40 o frodyr lleyg. Yn fuan wedi marwolaeth Madog ap Gruffydd Maelor, aeth yr abaty ar dân ym [[1236]] a bu cryn ddifrod; mae rhai o'r olion i'w gweld hyd heddiw. Dioddefodd ddifrod pellach yn ystod dau ymosodiad y brenin [[Edward I, brenin Lloegr|Edward I]] ar Gymru ym [[1276]]-[[1277]] a [[1282]]-[[1283]]. Talwyd iawndal ac adferwyd y difrod, a bu gwaith pellach ar yr adeilad dan yr Abad Adda ddechrau'r [[14eg ganrif|bedwaredd ganrif ar ddeg]]. Ymddengys i nifer y brodyr lleyg, ac efallai'r mynachod, leihau ar ôl [[Pla Du|y pla]] a newidiwyd yr adeiladau o'r herwydd.
 
Dywedir i'r abaty ddioddef difrod yn ystod gwrthryfel [[Owain Glyndŵr]] ond nid oes tystiolaeth i brofi hyn. Bu mwy o adeiladu yn y ganrif ddilynol, a chafodd yr abaty gyfnod o lewyrch, gyda llawer o ganmol ei fwyd a'i groeso gan y beirdd. Yma y bu farw [[Guto'r Glyn]] tua 1493. Canodd y bardd [[Lewys Môn]] i abad Glyn y Groes. Yn ôl rhestr o fannau claddu'r beirdd yn y llawysgrifau ac ewyllys dyddiedig [[1527]] sydd, mae'n ymddangos, yn ddogfen ddilys, claddwyd Lewys Môn (neu ''Lodowidus Mon'') yn [[Abatyyr Glynegwestl]]abaty yn [[1527.]].<ref>Eurys I. Rowlands (gol.), ''Gwaith Lewys Môn'' (Caerdydd, 1975), tud. xi.</ref>
 
Pan roddwyd [[Diddymu'r mynachlogydd|diwedd ar y mynachlogydd]] dan y brenin [[Harri VIII, brenin Lloegr|Harri VIII]], yr oedd Glyn y Groes yn un o'r abatai llai a gaewyd ym [[1537]].