Owain Lawgoch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
refs i'r dyddiad geni
→‎Etifeddiaeth: Uchafswm Limit = 20 ar Restr Wicidata; ayb, replaced: Glyndŵr → Glyn Dŵr (3) using AWB
Llinell 106:
Daethpwyd i uniaethu Owain a'r [[Mab Darogan]], y gwaredwr a ddaw i arwain y Cymry i fuddugoliaeth derfynol ar y Saeson a'u gyrru allan o Ynys Prydain gan adfer y deyrnas i feddiant y Cymry, disgynyddion y Brythoniaid. Yng nghyfnod Owain, dechreuodd corff mawr o gerddi darogan poblogaidd gylchredeg y wlad, yn proffwydoli ail-ddyfodiad y Mab Darogan a'i alw gan amlaf yn "Owain," traddodiad a barhaodd hyd y ganrif ddilynol. Mae'r ansoddair ''llawgoch'' ei hun yn awgrymiadol yng ngyd-destun y brudiau. Gellir ei ddeall yn llythrennol fel ansoddair sy'n addas i arwr, wrth reswm, ond ceir tystiolaeth bod staen neu farc coch ar y llaw yn arwydd meseianig yn nhraddodiad Iwerddon, e.e. yn achos Cathal Crobderg (Llawgoch), Brenin [[Connacht]] (bu farw 1224).<ref>James Carney, 'Literature in Irish, 1169-1534' yn Art Cosgrove (gol.), ''Medieval Ireland 1169-1534'', dyfynnir yn ''Owen of Wales'', tud. 119n.</ref>
 
Fe ragbaratodd y ffordd i Owain arall ei ddilyn: [[Owain Glyndŵr]]. Mabwysiadodd GlyndŵrGlyn Dŵr arfbais Owain Lawgoch, oedd yn fersiwn o arfbais [[Teyrnas Gwynedd]], ond gydag ystum y llewod yn wahanol i'r rhai ar arfbais Llywelyn Fawr a Llywelyn ap Gruffudd; newid a wnaed yn ôl [[R.R. Davies]] gan un o hynafiaid Owain Lawgoch. Trwy gymeryd yr arfau hyn, roedd GlyndŵrGlyn Dŵr yn ei gyhoeddi ei hun yn olynydd Owain Lawgoch. Pan yrrodd lysgenhadon at frenin Ffrainc, atgoffodd GlyndŵrGlyn Dŵr y brenin fod Owain Lawgoch wedi marw yng ngwasanaeth Siarl V, brenin Ffrainc.<ref>R.R. Davies ''The revolt of Owain Glyndŵr'' tt. 160-1, 163</ref>
 
==Chwedloniaeth==