Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Robert Jones Derfel"

Ychwanegwyd 171 beit ,  3 blynedd yn ôl
angen gwiro'r dyddiad marw; 1887 medd Hafina Clwyd
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
(angen gwiro'r dyddiad marw; 1887 medd Hafina Clwyd)
Sefydlodd wasg ym Manceinion. Daeth yn bregethwr gyda'r [[Bedyddwyr]] ond troes fwyfwy at [[sosialaeth]]. Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi gwladgarol a chartrefol, am fywyd y bobl gyffredin, a fu'n boblogaidd iawn.
 
Cyhoeddwyd nifer o lythyrau ac erthyglau ganddo yn ''[[Y Cymro]]'' a ''Llais Llafur '' rhwng 1892 a 1903. Awgrymodd mewn un llythyr y dylid mabywsiadu'r sosialydd cynnar [[Robert Owen]] fel [[nawddsant]] Cymru yn lle [[Dewi Sant]]. Galwodd yn ei bapur ''Traethodau ac Areithiau'' am bapur dyddiol Cymraeg, cenedlaethol, Prifysgol i Gymru, Llyfrgell Genedlaethol a llyfrgell ym mhob pentref yng Nghymru.
 
Roedd yn Gymro gwladgarol a anogai bawb i siarad [[Cymraeg]] ac amddiffyn Cymru. Pan ymddangosodd ei ddrama ddychanol ''[[Brad y Llyfrau Gleision]]'' yn [[1854]] mabwysiadwyd y teitl gan y Cymry i gyfeirio at adroddiad y [[Llyfrau Gleision]] gwrth-Gymraeg.