Gwrthryfel y Pasg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Casement
Llinell 5:
Gwrthryfel y Pasg oedd y gwrthryfel mwyaf yn [[hanes Iwerddon]] ers [[Gwrthryfel Gwyddelig 1798]]. Roedd y gwrthryfel wedi ei gynllunio yn bennaf gan yr IRB (''Irish Republican Brotherhood'', a pharhaodd o ddydd Llun y Pasg [[24 Ebrill]] hyd [[30 Ebrill]], [[1916]]. Y saith aelod o'r pwyllgor fu'n ei gynllunio oedd [[Tom Clarke]], [[Padraig Pearse]], [[James Connolly]], [[Eamonn Ceannt]], [[Joseph Plunkett]], [[Seán Mac Diarmada]] a [[Thomas MacDonagh]]. Roedd y rhan fwyaf o'r rhai a gymerodd ran yn y gwrthryfel yn aelodau o'r Gwirfoddolwyr Gwyddelig (''Irish Volunteers''), dan arweiniad Padraig Pearse, ond ymunwyd a hwy gan aelodau o'r ''Irish Citizen Army'' dan arweiniad James Connolly. Yn ninas [[Dulyn]] yr oedd y rhan fwyaf o'r ymladd, er bod rhywfaint o ymladd mewn rhannau eraill o Iwerddon. Cymerodd y gwrthryfelwyr feddiant o nifer o adeiladau o gwmpas canol Dulyn, gyda'r pencadlys yn Swyddfa'r Post. Wedi chwech diwrnod o ymladd, ildiodd y gwrthryfelwyr i'r fyddin Brydeinig. Lladdwyd 64 o'r gwrthryfelwyr yn y brwydro, tra collodd y fyddin Brydeinig 140 wedi eu lladd a 318 wedi ei hanafu. Lladdwyd 17 aelod o'r heddlu a thua 220 o bobl eraill.
 
Rhoddwyd yr arweinwyr ar eu prawf gan y fyddin, a dienyddiwyd 16 ohonynt yn ystod hanner cyntaf mis Mai, yn eu plith James Connolly, oedd wedi ei anafu mor ddrwg fel na allai sefyll ac a saethwyd yn eistedd mewn cadair. Ym mis Awst, crogwyd [[Roger Casement]], oedd wedi mynd i'r [[Almaen]] i geisio cefnogaeth i'r gwrthryfel ac wedi dychwelyd i Iwerddon mewn [[llong danfor]] ychydig ddyddiau cyn dechrau'r gwrthryfel.

Gyrrwyd y gweddill o'r gwrthryfelwyr i wersyll carchar yn [[Frongoch]] ger [[Y Bala]]. Llai na thair blynedd yn ddiweddarach, roedd llawer o'r rhai a gymerodd ran yn y gwrthryfel ymysg y rhai a sefydlodd y [[Dáil Cyntaf]] yn [[1919]], a arweiniodd at sefydlu [[Gweriniaeth Iwerddon]]. Yn eu plith roedd [[Éamon de Valera]] a [[Michael Collins]].