Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Roger Casement"

No change in size ,  12 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
B
Pan adawodd Casement y Congo,aeth i weithio dros Swyddfa Drefedigaethol y Deyrnas Gyfunol yn [[Nigeria]]. Yn 1895 daeth yn gonswl Prydeinig yn Lourenço Marques (yn awr Maputo). Yn 1892 dychwelodd i'r Congo a dod yn gonswl Prydeinig yno. Rhoddodd gyhoeddusrwydd i'r modd yr oedd y brodorion yn cael eu camdrin gan system Leopold II o waith gorfodol. Yn [[1903]], gofynodd y Senedd iddo ymchwilio i'r mater. Cyhoeddwyd ei adroddiad yn kwam [[1904]], a chafodd effaith fawr ar y farn gyhoeddus. Yn [[1906]] gyrrwyd ef i Dde America, a daeth yn gonswl yn [[Rio de Janeiro]]. Tra yno, tynnodd sylw at gamdriniaeth brodorion [[Periw]] gan y ''Peruvian Amazon Company'' Prydeinig, oedd yn gweithredu system debyg i [[caethwasiaeth|gaethwasiaeth]] ar gyfer cynhyrchu [[rwber]]. Gwnaed ef yn farchog am ei waith yn [[1911]].
 
Yn [[1912]] gadawodd y gwasanaeth trefedigaethol, a daeth yn aelod o'r [[Irish Volunteers]] dan [[Eoin MacNeill]]. Pan oedd [[Gwrthryfel y Pasg]] yn cael ei baratoi, aeth i'r [[Almaen]] i geisio cefnogaeth. Ni chafodd lawer o lwyddiant, ond gyrrodd yr Almaenwyr long, yr ''Aud Norge'', yn cario arfau i Iwerddon. Wedi i'r llong hwylio, aed a casementCasement i Iwerddon mewn [[llong danfor]] a'i ollwng ar draeth Banna yn [[Swydd Kerry]]. Dymunai Casement atal y gwrthryfel, gan nad oedd wedi cael digon o gefnogaeth iddo fedru llwyddo. Cymerwyd ef yn garcharor yn fuan wedi iddo lanio.
 
Rhoddwyd ef ar ei brawf yn [[Llundain]] am deyrnfradwriaeth, a dedfrydwyd ef i farwolaeth. Roedd ganddo nifer o gefnogwyr amlwg, yn cynnwys [[George Bernard Shaw]] ac [[Arthur Conan Doyle]], ond llwyddodd y llywodraeth Brydeinig i leihau y gefnogaeth iddo trwy gyhoeddi ei ddyddiaduron personol. Roedd y rhain yn dangos fod Casement yn [[Cyfunrywioldeb|gyfunrywiol]] gyda hoffder o fechgyn cynharol ieuainc, rhywbeth hollol annerbyniol yn y cyfnod. Mae rhai wedi awgrymu fod y rhannau yma yn y dyddiaduron wedi eu ffugio gan y llywodraeth.
37,236

golygiad