Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Roger Casement"

Lleihawyd o 5 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
B
Aeth Casement i [[Affrica]] yn [[1883]] pan oedd yn 19 oed. Yn [[y Congo]], bu'n gweithio i nifer o gwmniau, yn cynnwys yr ''Association Internationale Africaine'' a sefydlwyd gan [[Leopold II, brenin Gwlad Belg]]. Cyfarfu a [[Henry Morton Stanley]] a [[Joseph Conrad]] tra'r oedd yno.
 
Pan adawodd Casement y Congo,aeth i weithio dros Swyddfa Drefedigaethol y Deyrnas Gyfunol yn [[Nigeria]]. Yn 1895 daeth yn gonswl Prydeinig yn Lourenço Marques (yn awr Maputo). Yn 1892 dychwelodd i'r Congo a dod yn gonswl Prydeinig yno. Rhoddodd gyhoeddusrwydd i'r modd yr oedd y brodorion yn cael eu camdrin gan system Leopold II o waith gorfodol. Yn [[1903]], gofynodd y Senedd iddo ymchwilio i'r mater. Cyhoeddwyd ei adroddiad yn kwam [[1904]], a chafodd effaith fawr ar y farn gyhoeddus. Yn [[1906]] gyrrwyd ef i Dde America, a daeth yn gonswl yn [[Rio de Janeiro]]. Tra yno, tynnodd sylw at gamdriniaeth brodorion [[Periw]] gan y ''Peruvian Amazon Company'' Prydeinig, oedd yn gweithredu system debyg i [[caethwasiaeth|gaethwasiaeth]] ar gyfer cynhyrchu [[rwber]]. Gwnaed ef yn farchog am ei waith yn [[1911]].
 
Yn [[1912]] gadawodd y gwasanaeth trefedigaethol, a daeth yn aelod o'r [[Irish Volunteers]] dan [[Eoin MacNeill]]. Pan oedd [[Gwrthryfel y Pasg]] yn cael ei baratoi, aeth i'r [[Almaen]] i geisio cefnogaeth. Ni chafodd lawer o lwyddiant, ond gyrrodd yr Almaenwyr long, yr ''Aud Norge'', yn cario arfau i Iwerddon. Wedi i'r llong hwylio, aed a Casement i Iwerddon mewn [[llong danfor]] a'i ollwng ar draeth Banna yn [[Swydd Kerry]]. Dymunai Casement atal y gwrthryfel, gan nad oedd wedi cael digon o gefnogaeth iddo fedru llwyddo. Cymerwyd ef yn garcharor yn fuan wedi iddo lanio.
37,236

golygiad