Roger Casement: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
B cat
Llinell 1:
[[Image:Roger Casement.jpg|right|thumb|250px|Roger Casement]]
 
[[Cenedlaetholdeb Gwyddelig|Cenedlaetholwr Gwyddelig]] oedd '''Roger David Casement''' ([[Gwyddeleg]]: ''Ruairí Mac Easmainn'') ([[1 Medi]] [[1864]] – [[3 Awst]] [[1916]]).
 
Ganed Casement yn ninas [[Dulyn]]. Protestant oedd ei dad, ond Catholig oedd ei fam, a dywedir iddi hi drefnu i'w ail-fedyddio yn eglwys Gatholig [[y Rhyl]] pan oedd yn dair oed. Roedd ei rieni ill dau wedi marw erbyn iddo gyrraedd deg oed.
 
Aeth Casement i [[Affrica]] yn [[1883]] pan oedd yn 19 oed. Yn [[y [[Congo]], bu'n gweithio i nifer o gwmniau, yn cynnwys yr ''Association Internationale Africaine'' a sefydlwyd gan [[Leopold II, brenin Gwlad Belg]]. Cyfarfu a [[Henry Morton Stanley]] a [[Joseph Conrad]] tra'r oedd yno.
 
Pan adawodd Casement y Congo,aeth i weithio dros Swyddfa Drefedigaethol y Deyrnas Gyfunol yn [[Nigeria]]. Yn 1895 daeth yn gonswl Prydeinig yn Lourenço Marques (yn awr Maputo). Yn 1892 dychwelodd i'r Congo a dod yn gonswl Prydeinig yno. Rhoddodd gyhoeddusrwydd i'r modd yr oedd y brodorion yn cael eu camdrin gan system Leopold II o waith gorfodol. Yn [[1903]], gofynodd y Senedd iddo ymchwilio i'r mater. Cyhoeddwyd ei adroddiad yn [[1904]], a chafodd effaith fawr ar y farn gyhoeddus. Yn [[1906]] gyrrwyd ef i Dde America, a daeth yn gonswl yn [[Rio de Janeiro]]. Tra yno, tynnodd sylw at gamdriniaeth brodorion [[Periw]] gan y ''Peruvian Amazon Company'' Prydeinig, oedd yn gweithredu system debyg i [[caethwasiaeth|gaethwasiaeth]] ar gyfer cynhyrchu [[rwber]]. Gwnaed ef yn farchog am ei waith yn [[1911]].
Llinell 14:
 
Crogwyd Casement yn ngharchar Pentonville yn Llundain ar [[3 Awst]], 1916, a chladdwyd ef o fewn y carchar. Yn [[1965]], dychwelwyd ei gorff i Iwerddon, a'i gladdu ym [[Mynwent Glasnevin]].
 
 
[[Categori:Hanes Iwerddon|Casement, Roger]]
[[Categori:Hanes Affrica|Casement, Roger]]
[[Categori:Cenedlaetholdeb Gwyddelig|Casement, Roger]]
[[Categori:Pobl o Ddulyn|Casement, Roger]]
[[Categori:Genedigaethau 1864|Casement, Roger]]
[[Categori:Marwolaethau 1916|Casement, Roger]]