Gwenhwyfar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
cat
Llinell 1:
[[Image:Queen Guinevere.jpg|thumb|250px|Gwenhwyfar; llun gan [[William Morris]]]]
 
'''Gwenhwyfar''' ([[Lladin]]: ''Guinhumara'', [[Ffrangeg]]: ''Guenièvre'', [[Saesneg]]: ''Guinevere'') oedd gwraig y brenin [[Arthur]]. Disgrifir hi mewn rhai ffynonellau Cymraeg fel merch i Ogrfran[[Gogfran Gawr|Ogfran Gawr]], ac mae traddodiad fod iddi chwaer o'r enw Gwenhwyfach.
 
Ymddengys mewn nifer o testunau Cymreig, er enghraifft, crybwyllir hi yn chwedl ''[[Culhwch ac Olwen]]'', er nad oes ganddi ran fawr yn y stori. Ceir cyfres o hen englynion gyda'r teitl ''Ymddiddan Arthur a Gwenhwyfar'', sydd efallai wedi goroesi o chwedl goll gynnar amdani. Ym Muchedd [[Gildas]] o waith [[Caradog o Lancarfan]], dywedir i [[Melwas]], brenin ''Aestiva Regio'' ([[Gwlad yr Haf]]), ei chipio a'i chadw'n garcharor. Ymddengys y chwedl yma yng ngwaith [[Chrétien de Troyes]] hefyd. Mae fersiwn [[Sieffre o Fynwy]] o'r digwyddiad yn ei ''[[Historia Regum Britanniae]]'' ychydig yn wahanol; dywed iddi odinebu gyda [[Medrod]], nai Arthur, a gorffen ei hoes fel [[lleian]] yng [[Caerllion|Nghaerllion ar Wysg]]. Ceir nifer o gyfeiriadau ati yn [[y Tair Rhamant]].
 
Yn y fersiynau diweddarch o chwedlau Arthur, mae Gwenhwyfar yn cynnal carwriaeth a [[Lawnsalot]], ac mae hyn yn y pen draw yn arwain at [[Brwydr Camlan|Frwydr Camlan]] a dinistr y deyrnas. Mae traddodiad arall fod y cweryl rhwng Arthur a Medrawd wedi dechrau fel ffrae rhwng Gwenhwyfar a'i chwaer Gwenhwyfach. Mae un o [[Trioedd Ynys Prydain|Drioedd Ynys Prydain]] (53) yn cofnodi Gwenhwyfach yn taro Gwenhwyfar fel un o'r 'Tair Gwith (Niweidiol) Balfawd ('cernod')' am iddo arwain at Frwydr Camlan.
 
Mae un o [[Trioedd Ynys Prydain|Drioedd Ynys Prydain]] (53) yn cofnodi Gwenhwyfach yn taro Gwenhwyfar fel un o'r 'Tair Gwith (Niweidiol) Balfawd ('cernod')' am iddo arwain at Frwydr Camlan.
 
[[Categori:Cylch Arthur]]
 
[[Categori:Cylch Arthur]]
[[Categori:Mytholeg Gymreig]]
 
[[da:Guenevere]]