Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Llywarch Hen"

Ychwanegwyd 1,138 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
ehangu a chywirio (534-634???)
B
(ehangu a chywirio (534-634???))
Aelod o deulu brenhinol [[Rheged]] yn yr [[Hen Ogledd]] a ddaeth yn wrthrych y gadwyn o [[englyn]]ion a elwyd gan [[Ifor Williams]] yn ''[[Canu Llywarch Hen]]'' oedd '''Llywarch Hen''' (fl. diwedd y [[6ed ganrif]]).
Brenhin olaf [[Rheged]] oedd '''Llywarch Hen''' (534-634) .
 
Roedd Llywarch yn gefnder i [[Urien Rheged]], brenin Rheged, ac yn un o ddisgynyddion [[Coel Hen]]. Ychydig iawn a wyddys amdano ar wahân i'r hyn a geir yn nhraddodiadau cynnar [[Cymru]]. Yn yr achau traddodiadol a elwir [[Bonedd Gwŷr y Gogledd]], rhoddir llinach Llywarch Hen.
 
Yn ddiweddarach trawsleolwyd y traddodiadau am Lywarch a'i feibion i [[Teyrnas Powys|Bowys]] a lluniwyd cyfres o englynion lled-hanesyddol, lled-chwedlonol, am ei fywyd. Fe'i portreadir ynddynt fel hen ŵr unig sy'n galaru colli ei 24 mab. Am ei fod yn siarad yn y person cyntaf mewn rhai o'r englynion hyn daethpwyd i ystyried mai ef a'u canodd, ond gwyddyd erbyn heddiw eu bod yn gerddi amdano a fu'n rhan o gylch o chwedlau ehangach, efallai.
 
==Llyfryddiaeth==
*Jenny Rowland (gol.), ''Early Welsh Saga Poetry'' (Caerdydd, 1990)
*Ifor Williams (gol.), ''Canu Llywarch Hen'' (Caerdydd, 1935; sawl argraffiad diweddarach)
 
==Gweler hefyd==
*[[Canu'r Bwlch]]
*[[Canu Llywarch Hen]]
*[[Canu Heledd]]
*[[Rheged]]
 
 
[[Categori:Yr Hen Ogledd]]
[[Categori:Hanes traddodiadol Cymru]]
[[Categori:Genedigaethau'r 6ed ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau'r 630au]]
 
[[br:Llywarch Hen]]
[[en:Llywarch Hen]]