Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Llywarch Hen"

Ychwanegwyd 15 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(rhagor)
B
Aelod o deulu brenhinol [[Rheged]] yn yr [[Hen Ogledd]] a ddaeth yn wrthrych y gadwyn o [[englyn]]ion a elwyd gan [[Ifor Williams]] yn ''[[Canu Llywarch Hen]]'' oedd '''Llywarch Hen''' (fl. diwedd y [[6ed ganrif]]).
 
Roedd Llywarch yn gefnder i [[Urien Rheged]], brenin Rheged, ac yn un o ddisgynyddion [[Coel Hen]]. Ychydig iawn a wyddys amdano ar wahân i'r hyn a geir yn nhraddodiadau cynnar [[Cymru]]. Yn yr achau traddodiadol a elwir [[Bonedd Gwŷr y Gogledd]], rhoddir llinach Llywarch Hen fel a ganlyn:
 
:Llywarch Hen mab [[Elidir Lydanwyn]] mab [[Meirchion]] mab Gorust Ledlwm mab [[Cenau fab Coel|Cenau]] mab [[Coel Hen|Coel]].<ref>Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, 1961; arg. newydd 1991), Atodiad II.</ref>
 
Yn ddiweddarach trawsleolwyd y traddodiadau am Lywarch a'i feibion i [[Teyrnas Powys|Bowys]] a lluniwyd cyfres o englynion lled-hanesyddol, lled-chwedlonol, am ei fywyd. Fe'i portreadir ynddynt fel hen ŵr unig sy'n galaru colli ei 24 mab. Am ei fod yn siarad yn y person cyntaf mewn rhai o'r englynion hyn daethpwyd i ystyried mai ef a'u canodd, ond gwyddyd erbyn heddiw eu bod yn gerddi amdano a fu'n rhan o gylch o chwedlau ehangach, efallai.