Llywarch Hen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
chwaneg
Llinell 5:
:Llywarch Hen mab [[Elidir Lydanwyn]] mab [[Meirchion]] mab Gorust Ledlwm mab [[Cenau fab Coel|Cenau]] mab [[Coel Hen|Coel]].<ref>Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, 1961; arg. newydd 1991), Atodiad II.</ref>
 
Ceir enw Llywarch yn ach y brenin [[Gruffudd ap Cynan]] ar ddechrau ''[[Hanes Gruffudd ap Cynan]]'', a luniwyd yn ail hanner y [[12fed ganrif]], sy'n dangos fod y brenin [[Rhodri Mawr]] yn ddisgynydd uniongyrchol iddo a Choel Hen. Enwir Gwawr ferch [[Brychan]] yn fam Llywarch ac Urien yn y traethawd canoloesol ''De Situ Brecheniauc''.
 
Yn ddiweddarach trawsleolwyd y traddodiadau am Lywarch a'i feibion i [[Teyrnas Powys|Bowys]] a lluniwyd cyfres o englynion lled-hanesyddol, lled-chwedlonol, am ei fywyd. Fe'i portreadir ynddynt fel hen ŵr unig sy'n galaru colli ei 24 mab. Am ei fod yn siarad yn y person cyntaf mewn rhai o'r englynion hyn daethpwyd i ystyried mai ef a'u canodd, ond gwyddys erbyn heddiw eu bod yn gerddi amdano a fu'n rhan o gylch o chwedlau ehangach, efallai. Credir i'r cerddi gael eu cyfansoddi tua chanol y [[9fed ganrif]] gan fardd neu feirdd o Bowys.
Mae'r broses hon o drawsleoli arwyr yr Hen Ogledd i Gymru i'w gweld hefyd yn achos cymeriadau eraill, e.e. [[Taliesin]], [[Gwyddno Garanhir]], [[Myrddin]], ac [[Urien Rheged]] hefyd.
 
Cyfeirir at Lywarch Hen sawl gwaith yn [[Trioedd Ynys Prydain|Nhrioedd Ynys Prydain]]. Gyda [[Manawydan fab Llyr]] a Gwgon Gwron fab Peredur, mae'n un o 'Dri Lleddf Unben [[Ynys Prydain]]'. Mae'n un o 'Dri Thrwyddedog Llys Arthur, a Thri Anfoddog', gyda Llemenig a [[Heledd]]. Dywedir hefyd ei fod yn un o 'Dri Engiriol Ynys Prydain' (ystyr ''engiriol'' yw "blin, ffyrnig" efallai) ac yn un o'r 'Tri Anfoddog', gyda Heledd a Llemenig eto.]].<ref>Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'', Trioedd 8, 65, 76, 77.</ref>
 
Ceir sawl lle yng Nghymru a gysylltir â Llywarch Hen a'i feibion. Lleolir beddau rhai o'i feibion ym Mhowys, yn ôl englynion Canu Llywarch Hen. Cysylltir Llywarch ei hun â [[Llanfor]] ym [[Meirionnydd]]; enwir mwnt yno yn Babell Llywarch Hen. Yn y 12fed ganrif roedd clawdd ger [[Llyn Syfaddon]] yn adnabyddus fel Clawdd Llywarch Hen.
 
==Cyfeiriadau==