Canu Llywarch Hen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
eginyn
 
Llinell 2:
 
==Cefndir==
Aelod o deulu brenhinol [[Rheged]] yn yr [[Hen Ogledd]] oedd Llywarch Hen (fl. diwedd y [[6ed ganrif]]). Mae'n bosibl ei fod wedi olynu [[Urien Rheged]] fel brenin Rheged (bu farw [[Owain fab Urien]] cyn ei dad), ond nid oes sicrwydd am hynny. Mae dyddiadau geni a marw Llywarch Hen yn anhysbys. Roedd yn gefnder i Urien Rheged ac yn un o ddisgynyddion [[Coel Hen]]. Ychydig iawn a wyddys amdano ar wahân i'r hyn a geir yn nhraddodiadau cynnar [[Cymru]]. Yn yr achau traddodiadol a elwir [[Bonedd Gwŷr y Gogledd]] mae'n un o ddisgynyddion [[Coel Hen]], hendaid [[Rhodri Mawr]] ac eraill o frenhinoedd [[Cymru'r Oesoedd Canol]]. Dywedir mai Gwawr ferch [[Brychan]] oedd mam LlydawLlywarch ac Urien.<ref>Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd, 1961; arg. newydd 1991), Atodiad II.</ref>
 
Yn ddiweddarach trawsleolwyd y traddodiadau am Lywarch a'i feibion i [[Teyrnas Powys|Bowys]] a lluniwyd cyfres o englynion lled-hanesyddol, lled-chwedlonol, am ei fywyd. Fe'i portreadir ynddynt fel hen ŵr unig sy'n galaru colli ei 24 mab. Am ei fod yn siarad yn y person cyntaf mewn rhai o'r englynion hyn daethpwyd i ystyried mai ef a'u canodd, ond gwyddys erbyn heddiw eu bod yn gerddi amdano a fu'n rhan o gylch o chwedlau ehangach, efallai. Credir i'r cerddi gael eu cyfansoddi tua chanol y [[9fed ganrif]] gan fardd neu feirdd o Bowys.