Hu Gadarn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
ehangu
Llinell 1:
[[Delwedd:Hu Gadarn (Y Celt).JPG|200px|bawd|"Hu Gadarn yn Arwain y Cymry i Ynys Prydain" (o faner tudalen blaen ''Y Celt'', cylchgrawn o'r 1880au). Mae'r teitl yn llythrennau [[Coelbren y Beirdd]], un arall o luniadau Iolo Morganwg]]
[[Arwr]] Cymreig chwedlonol, ffrwyth dychymyg [[Iolo Morgannwg]] yn bennaf, yw '''Hu Gadarn'''.<ref>A. C. Rejhon, 'Hu Gadarn: Folkore and Fabrication', yn ''Celtic Folkore and Christianity'', gol. Patrick K. Ford (Santa Barbara, 1983), tt. 201-12.</ref>
 
Fe'i portreadir gan Iolo yn ei "Drydedd Gyfres" o [[Trioedd Ynys Prydain|Drioedd Ynys Prydain]], sef 'Trioedd Beirdd Ynys Prydain' (a gyhoeddwyd yn y [[Myvyrian Archaiology of Wales]]), fel math o arwr cenedlaethol a oedd yn ymgorffori pob agwedd ar [[Diwylliant|ddiwylliant]] y [[Cymry]], yn fath o hynafydd totemaidd, fel petai. Yn ôl Iolo, arweiniodd Hu y Cymry i [[Ynys Prydain]] o Ddeffrobani (enw canoloesol ar [[Sri Lanka]] a fenthycwyd gan Iolo). Dysgodd Hu y Cymry sut i gyfanheddu'r tir a byw yn heddychlon â'i gilydd yn ogystal a chrefft [[Cerdd Dafod]] er mwyn diogelu'r cof am yr hyn a fu.
Llinell 15:
Mae'r foeswers honno yn deillio o ffynhonnell [[Ffrangeg]] a gyfieithwyd i'r [[Cymraeg|Gymraeg]] yn y [[13eg ganrif]] dan yr enw [[Campau Charlymaen]]; trosodd y cyfieithydd enw un o'r arwyr, ''Hugun le Fort'' fel "Hu Gadarn".
 
Ffugiodd Iolo Morganwg draddodiad arall am Hu Gadarn yn defnyddio ei [[ych]]en i dynu'r [[afanc]] o'r llyn ac felly gwaredu Ynys Prydain o'r dylifiadau a achoswyd gan yr anghenfil chwedlonol honno.

Roedd llawer o bobl yn credu yn y chwedl Hu Gadarn, sy'n ddeniadol, a cheir nifer o gyfeiriadau at Hu yn [[llenyddiaeth]] y [[19eg ganrif]]. Er bod rhai ysglheigion yn amau dilysrwydd y traddodiad cyn hynny, bu rhaid aros tan yr 20fed ganrif i brofi mai un arall o ffugiadau niferus Iolo Morganwg oedd Hu Gadarn fel un o gyndeidiau chwedlonol y Cymry.
 
==Neo-dderwyddiaeth==
Mewn [[Neo-dderwyddiaeth]] cyfeirir at Ddefrobani Iolo Morganwg fel 'Atlantia' ac uniaethir Hu Gadarn â'r duw Celtaidd [[Esus]]. Llyncodd [[Robert Graves]] hanes Iolo yn gyfan, ac uniaethodd Hu Gadarn â duw corniog y Cymry yn y cyfnod Celtaidd;<ref>[[Robert Graves]], ''[[The White Goddess]]''</ref>. Mae'r [[Israeliaid Prydeinig]], sy'n credu bod hynafiaid pobl Prydain yn dod o [[Israel]], yn uniaethu Hu â'r cymeriad [[Beibl]]aidd [[Joshua]], tra bod eraill, gan ddilyn syniad ieithegol Iolo Morganwg a fynegwyd ganddo yn ei lyfr ''[[Barddas]]'', yn ei uniaethu â [[Iesu o Nasareth]] Hu-Hesus.
 
==Cyfeiriadau==