Geraint ac Enid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Chwedl Arthuraidd Gymraeg o'r Oesau Canol yw '''Geraint ac Enid''', weithiau Geraint fab Erbin. Mae'n un o'r tair stori (rhamant) Arthuraidd a adnabydd...
 
llun
Llinell 1:
Chwedl [[Arthur|Arthuraidd]] [[Cymraeg|Gymraeg]] o'r Oesau Canol yw '''Geraint ac Enid''', weithiau [[Geraint fab Erbin]]. Mae'n un o'r tair stori ([[rhamant]]) Arthuraidd a adnabyddir wrth y teitl [[Y Tair Rhamant]]. Y ddwy chwedl arall yn y Tair Rhamant yw ''[[Iarlles y Ffynnon]]'' a ''[[Peredur fab Efrawg]]''.
 
[[Delwedd:Geraint(Guest).JPG|250px|bawd|Geraint ac Enid, llun yn argraffiad 1877 o gyfieithiad [[Charlotte Guest]] o'r ''[[Mabinogion]]'']]
 
Mae'r chwedl yn cyfateb i'r gerdd Ffrangeg ''Erec et Enide'' gan [[Chrétien de Troyes]] o ail hanner y [[12fed ganrif]]. Erbyn hyn cred ysgolheigion fod y ddau gylch o chwedlau yn annibynnol ar ei gilydd ond bod elfennau ynddynt yn seiliedig ar waith hŷn. Credir i'r chwedl Gymraeg gael ei llunio yn ail hanner y 12fed ganrif.