Giotto: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Galeri: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 7:
Yn ei lyfr ''[[Bywydau'r Arlunwyr]]'', mae [[Giorgio Vasari]] yn dweud ei fod yn fugail pan yn fachgen, ac i'r arlunydd [[Cimabue]] ei weld yn tynnu lluniau ei ddefaid ar graig, ac adnabod ei dalent a'i gymeryd fel prentis. Tua 1280, dilynodd Giotto ei athro Cimabue i Rufain, lle'r oedd ysgol enwog o arlunwyr ffresco, yn cynnwys [[Pietro Cavallini]]. Mae'n debyg i Giotto fynd gyda Cimabue i [[Assisi]] a gweithio ar y darluniau ffreco ym Masilica Sant Ffransis yno, ond nid oes prawf o hyn.
 
Campwaith Giotto yn ôl y farn gyffredinol yw'r gyfres o luniau [[ffresco]] yn y ''[[Cappella degli Scrovegni]]'' (Capel Scrovegni) yn [[PaduaPadova]], a orffenwyd tua [[1305]]. Mae'r rhain yn dangos golygfeydd a fywyd y Forwyn Fair a dioddefaint Crist.
 
Rhwng 1306 a 1311 roedd Giotto yn Assisi, lle ceir nifer o luniau ffreco o'i waith o'r cyfnod yma. Dychwelodd i Fflorens yn 1311, ac roedd yn Rhufain yn 1313. Yn 1328, gwahoddodd [[Robert o Anjou]] ef i [[Napoli]], lle arhosodd hyd 1333. Yn 1334 penodwyd ef yn brif bensaer Eglwys Gadeiriol Fflorens.