Yr Ymerodraeth Fysantaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up
Dim crynodeb golygu
Llinell 140:
[[Delwedd:ConquestOfConstantinopleByTheCrusadersIn1204.jpg|bawd|300px|Cipio dinas Caergystennin gan y croesgadwyr yn 1204.]]
 
Bwriad [[y Bedwaredd Groesgad]] ([[1202]] - [[1204]]) oedd cipio [[Jeriwsalem]] oddi wrth luoedd [[Islam]], gan ymosod trwy [[yr Aifft]]. Yn [[1198]] daeth [[Pab Innocent III]] yn Bab, a dechreuodd bregethu'r angen am groesgad arall. Gyda chymorth pregethu [[Fulk o Neuilly]], codwyd byddin o groesgadwyr. Etholwyd [[Thibaut III, Cownt Champagne]] yn arweinydd yn 1199, ond bu ef farw yn 1200 a chymerwyd ei le gan Eidalwr, [[Boniface o Montferrat]]. Gyrrodd yr arweinwyr lysgenhadon at [[Fenis]] a [[GenoaGenova]] i geisio trefnu llongau, a chytunodd Fenis i gludo'r croesgadwyr.
 
Cychwynnodd y mwyafrif o'r croesgadwyr o Fenis yn Hydref 1202; y rhan fwyaf ohonynt o [[Ffrainc]]. Cychwynnodd rhai o borthladdoedd eraill, megis [[Marseilles]] a [[GenoaGenova]]. Roedd Fenis wedi gofyn am 85,000 o farciau arian am eu cludo, ond dim ond 51,000 y gallai'r croesgadwyr ei dalu. Oherwydd hyn, roedd gwŷr Fenis yn chwilio am gyfle i ad-ennill eu colledion ariannol. Yn dilyn yr ymosodiadau ar dramorwyr yng Nghaergystennin yn 1182, roedd marsiandïwyr Fenis wedi eu gorfodi i adael y ddinas. Oherwydd hyn, roedd y Fenetiaid a'u ''[[Doge]]'' Dandolo yn elyniaethus i Gaergystennin. Awgrymodd Dandolo y dylai'r croesgadwyr dalu'r gweddill o'u dyled trwy ymosod ar borthladd [[Zadar|Zara]] yn [[Dalmatia]] ([[Zadar]] yn [[Croatia]] heddiw), oedd yn rhan o'r Ymerodraeth Fysantaidd.
 
Daeth y croesgadwyr i gysylltiad a'r tywysog Bysantaidd [[Alexius IV Angelus|Alexius Angelus]], mab yr ymerawdwr [[Isaac II Angelus]] oedd wedi ei ddiorseddu'n ddiweddar. Roedd Alexius yn alltud yn llys [[Philip o Swabia]], a chynigiodd arian a milwyr i'r croesgadwyr pe baent yn ymosod ar Gaergystennin, diorseddu'r ymerawdwr [[Alexius III Angelus]] a rhoi Isaac II yn ôl ar yr orsedd.