Ieuan Evans: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Cyn-chwaraewr [[rygbi'r undeb]] Cymreig yw '''Ieuan Evans''', (ganed [[21 Mawrth]] [[1964]]). Enillodd 72 o gapiau dros Gymru, fel asgellwr yn bennaf, gan sgorio 33 cais. Er iddo chwarae mewn cyfnod pan nad oedd y tîm cenedlaethol yn llwyddiannus iawn, ystyrir ef yn un o chwaraewyr gorau Cymru.
 
Ganwyd ef yn [[Pontarddulais|Mhontarddulais]] a dechreuodd chwarae rygbi yn yr ysgol ramadeg yn [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]]. Chwaraeodd ei gêm gyntaf i Glwb Rygbi Llanelli yn 19 oed, pan oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Salford. Yn [[1997]] aeth i chwarae i [[Caerfaddon|Gaerfaddon]], gan einnillennill [[Cwpan Heineken]] gyda hwy yn [[1998]].
 
Ei gêm gyntaf dros Gymru oedd yr un yn erbyn Ffrainc ym Mharis yn 1987. Yn ystod ei yrfa, enillodd 72 cap dros Cymru, ac roedd ei 33 cais yn record ar y pryd. Bu'n gapten Cymru 28 o weithiau. Yr oedd yn gapten tim Cymru a enillodd [[Pencampwriaeth y Chwe Gwlad|Bencampwriaeth y Pum Gwlad]] yn 1994, ond nid oedd y tîm cenedlaethol yn arbennig o lwyddiannus yn y cyfnod yma. Chwaraeodd ei gêm olaf dros Gymru yn erbyn yr Eidal yn 1998.