Neil Jenkins: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Ganed Neil Jenkins yn [[Gartholwg]], a chwaraeodd rygbi i glybiau [[Clwb Rygbi Pontypridd|Pontypridd]] a [[Clwb Rygbi Caerdydd| Chaerdydd]].
 
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn [[1991]] pan oedd yn 19 oed. Gallai chwarae fel maswr, canolwr neu gefnwr. Aeth ymlaen i ennill 87 o gapiau dros Gymru a sgorio 1049 o bwyntiau, sydd ar hyn o bryd (2005)oedd yn record y byd am bwyntiau rhyngwladol nes i [[Jonny Wilkinson]] o Loegr ei thorri yn [[2008]]. Aeth heibio'r record flaenorol o 911 a ddelid gan [[Michael Lynagh]] o [[Awstralia]] yn ystod Cwpan y Byd yn 1999 a chyrhaeddodd y nôd o fil o bwyntiau yn erbyn Lloegr yn 2001.
 
Yr oedd Jenkins yn giciwr heb ei ail - yn y tymor 2003/4, llwyddodd i sgorio gyda phob un o 44 cic yn olynol i'r Celtic Warriors, hynny hefyd yn record y byd ar hyn o bryd (2005).
 
Aeth ar daith i [[De Affrica|Dde Affrica]] gyda'r [[Y Llewod Prydeinig|Llewod Prydeinig]] yn 1997 a chwaraeodd fel cefnwr ymhob un o'r tair gêm brawf. Enillodd y Llewod y gyfres o ddwy gêm i un, a chicio Jenkins fu'n gyfrifol am hynny i rannau helaeth. Aeth ar daith eto gyda'r Llewod i [[Seland Newydd]] yn [[2001]], ond oherwydd anafiadau ni chafod daith mor llwyddiannus y tro yma.
 
Ni chafodd le yn sgwad Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn 2003, ac yn ddiweddarach cyhoeddodd ei ymddeoliad o rygbi rhyngwladol. Yn Hydref 2005 penodwyd ef a [[Robyn McBride]] yn hyfforddwyr sgiliau i helpu chwaraewyr rhyngwladol y dyfodol yn y bedair academi ranbarthol.