Allen Clement Edwards: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 17:
 
==Gyrfa wleidyddol==
Er ei fod yn Undebwr Llafur brwd doedd Edwards ddim yn gefnogol o'r [[Y Blaid Lafur (DU)|Blaid Lafur]]. Cafodd ei ethol i gyngor Islington ym 1898. Safodd yn aflwyddiannus am sedd seneddol Tottenham fel Rhyddfrydwr yn etholiad 1895 ac ym [[Bwrdeistrefi Dinbych (etholaeth seneddol)|Mwrdeistrefi Dinbych]] ym1900ym 1900. Safodd eto yn Ninbych ym 1906 gan gipio'r sedd. Methodd i gael ei ailethol yno yn Ionawr 1910 gan golli o ddim ond wyth bleidlais. Yn etholiad Tachwedd 1910 safodd i'r Rhyddfrydwyr yn etholaeth [[Dwyrain Morgannwg (etholaeth seneddol)|Dwyrain Morgannwg]] gan gipio'r sedd.<ref>Mr Clement Edwards Denbighshire Free Press — 17 Rhagfyr 1910 LLGC Papurau Cymru arlein [http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3774109/ART74] adalwyd 20 Rhagfyr 2014</ref> Cafodd etholaeth Dwyrain Morgannwg ei ddileu ar gyfer etholiad 1918.
 
O herwydd ei gefnogaeth brwd i achos y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd Edwards ei ddenu gan fudiad o'r enw [[Cynghrair Gweithwyr Prydain]] a oedd yn ceisio hybu achos y rhyfel ym mysg y dosbarth gweithiol. Pan dynnodd y Blaid Lafur allan o'r Llywodraeth Clymblaid ar gyfer etholiad 1918 trodd y Gynghrair yn blaid wleidyddol llafuraidd a oedd yn parhau i gefnogi'r Glymblaid [[Y Blaid Democrataidd Cenedlaethol a Llafur]] (NDP). Safodd Edwards yn enw'r NDP yn etholaeth East Ham South yn Etholiad Cyffredinol 1918 gan gipio'r sedd. Bu'n gadeirydd grŵp seneddol yr NDP o 1918 i 1920. Methodd yn ei ymgais i ddal gafael ar ei sedd yn enw [[Rhyddfrydwr y Glymblaid]] yn etholiad 1922.