Llancarfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thijs!bot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: nl:Llancarfan
ehangu
Llinell 4:
</table>
 
Pentref a phlwyf ym [[Bro Morgannwg|Mro Morgannwg]], lleyw '''Llancarfan'''. Ganwyd yr hynafiaethydd a ganwydllenor [[Iolo Morganwg]], ywym '''Llancarfan'''mhentref [[Pennon]] yn y plwyf.
 
==Clas Llancarfan==
Roedd Llancarfan yn adnabyddus yn y Gymru gynnar am ei [[clas|glas]] (ar safle eglwys Llancarfan heddiw) neu fynachlog gynnar a sefydlwyd gan [[Sant]] [[Cadog]] yn y 6ed ganrif. Ceir carreg ag arni arysgrif Ladin o'r 11eg ganrif neu ddechrau'r ganrif olynnol yn yr eglwys. Yn ôl traddodiad, cedwid llyfr efengylau [[Gildas]] yma. Yma hefyd yr ysgrifenwyd ''Buchedd Sant Cadog'' yn [[Lladin]] gan y mynach Lifris ac ymddengys y bu'n ganolfan dysg bwysig yn yr [[Oesoedd Canol Cynnar]]. Cofnodir anrheithio'r clas gan fôr-ladron [[Llychlyn]]aidd yn y flwyddyn 988, yn ôl yr ''[[Annales Cambriae]]''. Pan feddianwyd [[Morgannwg]] gan y [[Normaniaid]] rhoddwyd Llancarfan i fynachlog Pedr Sant yng [[Caerloyw|Nghaerloyw]] a darfu am y clas Cymreig. Y gorffennol disglair hwn a barodd i Iolo Morgannwg lunio rhai o'i ffugiadau enwocaf sy'n rhoi ffug hanes Sant Cadog a'i fynachlog.
 
==Dolenni==
* {{eicon en}} [http://www.llancarfan.f9.co.uk/ Gwefan y pentref]
* {{eicon en}} [http://www.earlybritishkingdoms.com/archaeology/llancarfanch.html Eglwys Llancarfan]
 
{{eginyn}}
 
{{Trefi Bro Morgannwg}}
{{Eginyn Cymru}}
 
[[Categori:Pentrefi Bro Morgannwg]]
[[Categori:Clasau]]
 
[[en:Llancarfan]]