Llancarfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
ehangu
Llinell 4:
</table>
 
Pentref a phlwyf sy'n gorwedd rhwng [[Y Bont-faen]] a'r [[Y Barri|Barri]] ym [[Bro Morgannwg|Mro Morgannwg]] yw '''Llancarfan'''. Ganwyd yr hynafiaethydd a llenor [[Iolo Morganwg]] ym mhentref [[Pennon]] yn y plwyf.
 
==Clas Llancarfan==
Roedd Llancarfan yn adnabyddus yn y Gymru gynnar am ei [[clas|glas]] (ar safle eglwys Llancarfan heddiw) neu fynachlog gynnar a sefydlwyd gan [[Sant]] [[Cadog]] yn y 6ed ganrif. Ceir carreg ag arni arysgrif Ladin o'r 11eg ganrif neu ddechrau'r ganrif olynnol yn yr eglwys. Yn ôl traddodiad, cedwid llyfr efengylau [[Gildas]] yma. Yma hefyd yr ysgrifenwyd ''Buchedd Sant Cadog'' yn [[Lladin]] gan y mynach Lifris ac ymddengys y bu'n ganolfan dysg bwysig yn yr [[Oesoedd Canol Cynnar]]. Yr enwocaf o lenorion mynachaidd Llancarfan yw [[Caradog o Lancarfan]] (fl. 1135), awdur nifer o fucheddau saint. Awgrymwyd o gyfnod y Dadeni ymlaen mai ef a ysgrifennodd ''[[Llyfr Landaf]]'' a fersiwn gynharaf ''[[Brut y Tywysogion]]'', ond diweddar yw'r traddodiadau hyn ac yn achos y ''Brut'' gwyddys bellach ei fod yn ffrwyth sawl awdur a chanolfan yn hytrach na gwaith unigolyn.

Cofnodir anrheithio'r clas gan fôr-ladron [[Llychlyn]]aidd yn y flwyddyn 988, yn ôl yr ''[[Annales Cambriae]]''. Pan feddianwyd [[Morgannwg]] gan y [[Normaniaid]] rhoddwyd Llancarfan i fynachlog Pedr Sant yng [[Caerloyw|Nghaerloyw]] a darfu am y clas Cymreig.

Y gorffennol disglair hwn a barodd i Iolo Morgannwg lunio rhai o'i ffugiadau enwocaf sy'n rhoi ffug hanes Sant Cadog a'i fynachlog.
 
==Dolenni==