Bleddyn Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd '''Bleddyn Llewellyn Williams''' [[MBE]] (ganed 22 Chwefror [[1923]] yn Ffynnon Tâf), yn chwaraewr [[Rygbi’r undeb]] a enillodd 22 o gapiau drost [[Tîm rygbi’r undeb cenedlaethol Cymru|Gymru]], fel canolwr yn bennaf, ac a adnabyddid fel “Tywysog y Canolwyr”.
 
Ganed ef yn [[Ffynnon Taf]] ger [[Caerdydd]]. Roedd yn un o chwaraewyr mwyaf nodedig [[Clwb Rygbi Caerdydd]]. Ef oedd capten tim Caerdydd pan gawsant fuddugoliaeth dros y [[Crysau Duon]] yn 1953 a ffurfiai bartneriaeth effeithiol dros ben i Gaerdydd ac i Gymru gyda’r canolwr arall, [[Jack Matthews]]. Chwaraeodd pob un o’i saith brawd i Gaerdydd hefyd.
 
Chwaraeodd nifer o weithiau drost dîm Cymru mewn gemau answyddogol yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]] cyn ennill ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Lloegr ym [[Parc yr Arfau|Mharc yr Arfau]] yn [[1947]]. Yn [[1953]] yr oedd yn gapten tîm Cymru pan gurwyd y [[Crysau Duon]]. Chwaraeodd ei gêm olaf dros Gymru yn erbyn Lloegr yn [[1955]]. Sgoriodd saith cais dros Gymru a bu’n gapten y tîm bum gwaith i gyd, gyda Chymru’n ennill pob un o’r gemau hyn.