Llenor a bardd [[Rwsia|RwsiegRwseg]] oedd '''Boris Leonidovich Pasternak''' ([[RwsiegRwseg]] ''Борис Леонидович Пастернак'') ([[29 Ionawr]] / [[10 Chwefror]] [[1890]] – [[30 Mai]] [[1960]]). Fe'i hadnabyddir yn y Gorllewin fwyaf am ei nofel drasig ''[[Doctor Zhivago]]'' (1957). Yn Rwsia ei hun, fodd bynnag, fe'i hadnabyddir fel bardd yn bennaf. Dadleuir mai ''Moya sestra — zhizn'' ('Fy chwaer, bywyd'), a ysgrifennodd yn [[1917]], yw'r casgliad barddoniaeth mwyaf dylanwadol a gyhoeddwyd yn [[RwsiegRwseg]] yn yr [[20fed ganrif|ugeinfed ganrif]]. Enillodd [[Gwobr Llenyddiaeth Nobel|Wobr Llenyddiaeth Nobel]] ym [[1958]], ond ni allodd ei derbyn am resymau gwleidyddol.