Golda Meir: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: bawd|220px|Golda Meir '''Golda Meir''', (Hebraeg:גולדה מאיר), ganed '''Golda Mabovitch''', 3 Mai 1898 - 8 Rhagfyr 1978...
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Ganed hi fel Golda Mabovitch yn [[Kiev]] yn yr [[Wcrain]]; roedd ei thad yn saer. Ymfudodd y teulu i [[Milwaukee, Wisconsin|Milwaukee]], [[Wisconsin]], pan oedd yn ieuanc, ac addysgwyd hi yno. Priododd Morris Myerson yn 1917. Ymfudasant i Balesteina yn 1921, ac ymuno a [[kibbutz]]. Daeth yn flaenllaw mewn gwleidyddiaeth, ac ymhen amser gwahanodd oddi wrth Morris, er na ysgarwyd hwy.
 
Wedi i Israel ddod yn annibynnol, apwyntiwyd hi'n llysgennagllysgennad i'tr [[Undeb Sofietaidd]] yn 1948, ac yn 1949 etholwyd hi i'r senedd, y [[Knesset]]. Yn 1956 daeth yn Weinidog dros faterion Tramor yn llywodraeth [[David Ben-Gurion]]. Wedi marwolaeth annisgwyl [[Levi Eshkol]] ar [[26 Chwefror]] [[1969]], daeth yn Brif Weinidog. Hi oedd y wraig gyntaf i fod yn brif weinidog Israel, a dim ond y drydedd yn y byd i ddal y swydd. Yr unig ddwy o'i blaen oedd [[Sirimavo Bandaranaike]] o [[Sri Lanka]] ac [[Indira Gandhi]] o [[India]].
 
Yn ystod ei chyfnod hi fel Prif Weinidog y bu [[Rhyfel Yom Kippur]]. Er i Israel ennill y rhyfel yn y diwedd, roedd beirniadaeth nad oedd y wlad wedi bod yn barod pan ddechreuodd y rhyfel. Ymddiswyddodd ar [[11 Ebrill]] [[1974]]. Bu farw o gancr yn [[Jeriwsalem]] yn 80 oed yn 1978.