Thomas Burgess: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
→Bywyd: ehangu |
||
Llinell 7:
Yn [[1788]] cyhoeddodd ei ''Considerations on the Abolition of Slavery'', a awgrymodd ddodd â [[caethwasiaeth|chaethwasiaeth]] i ben ond dros amser yn hytrach nag ar unwaith. Yn [[1791]] aeth gyda Barrington i ddinas [[Durham]].
Yn [[1803]] cafodd ei apwyntio yn [[Esgob Tyddewi]], ac arosodd yno am ugain mlynedd. Sefydlodd gangen o'r [[SPCK]] yn yr esgobaeth a hefyd [[Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan|Coleg Dewi Sant]] ([[Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan]] heddiw). Cyfranodd yn helaeth i'r coleg newydd a gadawodd ei lyfrgell sylweddol iddo yn ei ewyllys. Yn
Yn ystod ei dymor yn Nhyddewi magodd ddiddordeb dwfn a diffuant yn [[Cristnogaeth yng Nghymru|hanes eglwysig Cymru]] a [[llenyddiaeth Gymraeg|thraddodiad llenyddol y wlad]]. Gyda [[Iolo Morganwg]], cymerodd ran yn [[Eisteddfod Caerfyrddin 1819]]. Roedd yn boblogaidd gan y Cymry, er ei fod yn Sais, am ei fod yn hyrwyddo agweddau mwy Cymreig ar weithgareddau [[Eglwys Loegr]] yng Nghymru.
Yn 1823 cafodd ei apwyntio yn [[Esgob Salisbury]], lle bu am ddeuddeg mlynedd. Ond roedd yn geidwadol o ran ei [[diwinyddiaeth|ddiwinyddiaeth]] a gwrthwynebai [[Undodiaeth]] a rhyddid addoliad i [[Eglwys Gatholig Rufeinig|Gatholigion]].
|