Y Gop: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 13:
Ceir yn ogystal [[Ogofâu'r Gop|ogofâu]] ar lethrau'r Gop lle darganfuwyd olion cynhanesyddol yn cynnwys esgyrn [[hyaena]] a gweddillion pobl a gladdwyd yno yn y cyfnod [[Neolithig]], a hynny yn ddefodol, fe ymddengys. Damcanieithir fod yr ogofâu a'r garnedd yn rhan o'r un safle defodol ac felly bod y garnedd yn perthyn i'r Oes Neolithig yn hytrach nag Oes yr Efydd, fel a dybiwyd yn y gorffennol.<ref>''Clwyd and Powys'', tt. 11-12.</ref>
 
Mewn un ogof 43m i'r de-ddwyrain o'r siambr gladdu dargafuwyd esgyrn [[hyenaudfil]], [[bison]], [[carw|ceirw]] amrywiol, [[ceffyl]] a [[rhinoseros gwlanog]]. Uwch ben y rhain, a oedd mewn haen o glai llwyd roedd potiau clai, siarcol ac olion coginio. Roedd yno hefyd rhai esgyrn anifail wedi'u llosgi a rhai dynol o dan faeni calchfaen. Yn 1958 tra'n archwilio'r haenau hyn canfyddodd yr archaeolegydd Boyd Dawkins ogof gudd a oedd yn cynnwys 14 ysgerbwd dynol, yn agos at ei gilydd. Roeddent wedi'u gosod yno un ar y tro, gyda phob un ar ei gwrcwd (hy gyda'r pengliniau ger yr ên). Mewn rhan arall o'r ogof gerllaw, canfuwyd 6 ysgerbwd arall. Oherwydd y dolenni cau gwregys arbennig gerllaw gellir eu dyddio i [[Oes Newydd y Cerrig yng Nghymru|Oes Newydd y Cerrig]]. Mae dolenni cau, fel y rhain, yn hynod o brin, gyda dim ond 23 wedi'u canfod; maent hefyd yn nodi fod eu perchnogion yn bobl o statws uchel o fewn eu cymdeithas. Ymhlith yr arteffactau eraill yn yr ogof roedd fflint wedi'i gaboli, crochenwaith 'Peterborough', cyllell fflint, pen-saeth, bwyell o [[Graig Lwyd]], [[Penmaenmawr]] a gên isaf [[lyncs]]. Mae'n ymddangos fod rhai o'r cyrff wedi'u claddu mewn man arall cyn eu cludo yma - ac roedd hyn yn ymarfer eitha cyffredin yn y cyfnod mesolithig.<ref name="ReferenceA"/>
 
==Gweler hefyd==