Al-Nahda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: :''Erthygl am y mudiad diwylliannol yw hon. Am y blaid wleidyddol Tunisiaidd gweler Hizb al-Nahda.'' Mudiad neu duedd diwylliannol ac ymenyddol yn y byd Arabaidd ar ddiwedd y...
 
ehangu
Llinell 1:
:''Erthygl am y mudiad diwylliannol yw hon. Am y blaid wleidyddol Tunisiaidd gweler [[Hizb al-Nahda]].''
Mudiad neu duedd diwylliannol ac ymenyddol yn y [[byd Arabaidd]] ar ddiwedd y [[19eg ganrif]] a dechrau'r [[20fed ganridganrif|20fed]] a'i wreiddiau'n gorwedd yn [[Libanus]], ond a symudodd wedyn i'r [[Aifft]] yn bennaf, oedd '''Al-Nahda''' neu '''an-Nahda'''/'''Ennahda''' ([[Arabeg]]: النهضة, "Dadeni").
 
Roedd Al-Nahda yn un o'r tueddiadau hanesyddol pwysicaf ym myd ymenyddol a diwyllianol yr [[Arabiaid]], ac yn neilltuol Arabiaid y [[Dwyrain Canol]], a gafodd effaith pellgyrhaeddol ar [[llenyddiaeth Arabeg|lenyddiaeth]], [[gwleidyddiaeth]], [[Diwylliant Arabaidd|diwylliant]] a [[Islam|chrefydd]]. Yn y byd Arabaidd caiff ei gymharu'n aml â'r [[Yr Oleuedigaeth|Oleuedigaeth]] yn [[Ewrop]] yn y [[18fed ganrif]], fel cyfnod o foderneiddio a datblygu ymenyddol a diwygiad gwleidyddol a chrefyddol.
 
Bu gan Al-Nahda ran allweddol yn y twf mewn [[cenedlaetholdeb Arabaidd]] a'r her i ddominyddiaeth ar y byd Arabaidd gan y pwerau [[gwladychaethgwladychiaeth|gwladychol]] Ewropeaidd ([[Ffrainc]] a [[DU|Phrydain]] yn enwedig). Cafodd syniadau a datblygiadau Ewropeaidd ddylanwad mawr ar Al-Nahda, ond ar yr un pryd teimlai rhai fod angen gwrthsefyll y dylanwadau hynny trwy atgyfnerthu traddodiadau Arabaidd ac [[Islam]]aidd a chryfhau undod diwylliannol yr Arabiaid. Ymhlith yr ysgogiadau a arweiniodd at eni'r mudiad gellid crybwyll y sioc a barodd gorsegyniad yr Aifft gan [[Napoleon]] yn [[1798]], a'r symudiadau am ddiwygiad gan rhai o ''[[khedive]]s'' y wlad honno, fel [[Muhammad Ali]]. Dylanwad arall oedd y diwygiadau ''tanzimat'' gan [[Ymerodraeth yr Otomaniaid]], rheolwr rhan helaeth o'r Dwyrain Canol hyd y [[Rhyfel Byd Cyntaf]]. Cyflwynodd y diwygiadau hyn drefn gyfansoddiadol i wleidyddiaeth yr ymerodraeth a arweiniodd yn y pen draw i greu dosbarth gwleidyddol Arabaidd a nifer o'i aelodau yn dymuno [[annibyniaeth]] a rhyddid i'r Arabiaid.
 
Symudodd canolfan yr al-Nahda i'r Aifft yn fuan ar ôl ei sefydlu. [[Cairo]] oedd "pencadlys" y mudiad, ffaith sy'n pwysleisio rôl hanesyddol y ddinas honno a'r Aifft yn y byd Arabaidd. Ond roedd gweithgareddau Al-Nahda yn amlwg hefyd mewn canolfannau eraill, yn enwedig [[Beirut]] ac, i raddau llai, ddinas [[Damascus]].
<!--Another major influence and motive, were the 19th century tanzimat reforms of the Ottoman Empire, which ruled most of the Arab world until the first world war. These reforms brought a constitutional order to Ottoman politics, and institutionalized politics, which in turn engendered an Arab political class.
 
The participants in the al-Nahda movement were often Egyptian, and Cairo was undoubtedly the geographical center of the movement, emphasizing the leading role traditionally held by Egypt in the Arab world. But al-Nahda was also felt in other Arab capitals, notably Beirut and to a lesser extent Damascus. The shared language of the Arab world ensured that the exploits of the movement could be quickly picked up by intellectuals in other Arab countries. -->
 
 
Llinell 14 ⟶ 12:
[[Categori:Diwylliant y Dwyrain Canol]]
[[Categori:Hanes y Dwyrain Canol]]
[[Categori:Hanes yr Aifft]]
[[Categori:Islam]]