Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hizb al-Nahda"

Ychwanegwyd 12 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
B
typos
(→‎Dolenni allanol: categori dyfnach)
B (typos)
[[Plaid wleidyddol]] [[Islam]]ig waharddedig yn [[Tunisia]] yw '''Hizb al-Nahda''' neu '''Hizb Ennahda''' ([[Arabeg]] النهضة "Plaid y Dadeni"; [[Ffrangeg]], ''Parti de la Renaissance''). Ei llywydd presennol, mewn alltudiaeth, yw [[Rached Ghannouchi]].
 
Cafodd ei sefydlu yn wreiddiol dan yr enw ''Action islamigqueislamique'', wedyn newidiodd ei henw i Fudiad y Tuedd Islamig, ac wedyn yn [[1989]] i ''Hizb al-Nahda''.<ref>''Columbia World Dictionary of Islamism'', Olivier Roy a Antoine Sfeir, gol., 2007, tt.354-5</ref> Er iddynt ar y dechrau arddel syniadau [[Sayyid Qutb]] a [[Maududi]], o'r 1980au ymlaen dechreuasant eu disgrifio eu hunain fel "plaid Islamig gymhedrol". Dywedant eu bod o blaid [[democratiaeth]] a ffurf "Tunisiaidd" ar [[Islamiaeth]] a fyddai'n cydnabod [[lluosogaeth gwleidyddolwleidyddol]]. Galwant hefyd am drafod gyda'r [[Y Gorllewin|Gorllewin]]. Fodd bynnag, maent yn gwrthod syniadau arferol y Gorllewin am natur democratiaeth ryddfrydig ac am weld [[cyfansoddiad]] gwaelodol Islamaidd yn lle'r un [[seciwlariaeth|seciwlar]] presennol yn Tunisia. Mae rhai wedi cyhuddo un o'i phrif arweinwyr, [[Rashid Al-Ghannushi]], o fod a hanes o gefnogi trais, ac eto y prif gyhuddiad yn ei erbyn gan [[llywodraeth Tunisia]] oedd trefnu plaid wleidyddol anghyfreithlon.
 
Ar ddiwedd y 1980au a dechrau'r ddegawd olynol cyhoeddai'r blaid bapur newydd anghyfreithlon, ''Al-Fajr''. Cafodd golygydd ''Al Fajr'', Hamadi Jebali, ei ddeddfrydu i 16 mlynedd o garchar yn [[1992]] am berthyn i grŵp gwaharddedig ac am "gynllwynio traid gyda'r bwriad o newid natur y [[gwladwriaeth|wladwriaeth]]." Caniatawyd i aelodau o Al Nahda sefyll yn etholiadau [[1989]] ond cafodd y mudiad ei wahardd yn llwyr yn [[1991]]. Credir fod yr orsaf teledu [[Arabeg]] ''El Zeitouna'' yn gysylltiedig ag al-Nahda.