Amnest Rhyngwladol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
PipepBot (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Amnest Rhyngwladol.png|bawd|130px|Arwyddlun Amnest Rhyngwladol]]
[[Carfan bwyso]] annibynnol byd-eang yw '''Amnest Rhyngwladol''' (a elwir yn gyffredin yn '''Amnest''') sydd yn ymgyrchu dros ryddhad pob [[carcharor cydwybod]] (sef pobl a garcharir neu gam-drinir oherwydd eu credoau [[gwleidyddiaeth|gwleidyddol]] neu [[crefydd|grefyddol]]: gweler hefyd [[carcharor gwleidyddol]]). Sefydlodd y [[cyfreithiwr]] [[Y Deyrnas Unedig|Prydeinig]] [[Peter Benenson]] y mudiad yn [[1961]], gyda'i bencadlys yn [[Llundain]]. Seilir Amnest Rhyngwladol ar rwydwaith o grwpiau lleol gwirfoddol ac aelodau unigol ar draws y byd, sydd yn mabwysiadu carcharorion cydwybod ac yn dilyn'u hachosion gyda'r [[llywodraeth]]au perthnasol neu drwy gyrff rhyngwladol. Mae dulliau'r mudiad o ymchwilio ac ymgyrchu yn cynnwys monitro, cyhoeddusrwyd trwy'r [[cyfryngau torfol]], a gohebiaeth gydag unigolion.
 
Mae gan Amnest Rhyngwladol tua 1 miliwn o aelodau byd-eang, gyda 5300 o grwpiau gwirfoddol ac adrannau a drefnir yn ôl gwlad mewn 56 o wledydd, a chefnogwyr mewn 162 o wledydd. Caiff ei gyllido gan roddion gwirfoddol. Derbynnodd [[Gwobr Heddwch Nobel]] yn [[1977]] am "ei ymdrechion ar ran amddiffyn urddas dynol yn erbyn trais a darostyngiad".
 
==CysylltiadauGweler allanolhefyd==
* [[Carcharor cydwybod]]
* [[Carcharor gwleidyddol]]
 
==Dolenni allanol==
*[http://www.amnesty.org.uk/content.asp?CategoryID=10564 Amnest Rhyngwladol Cymru]
 
 
[[Categori:Amnest Rhyngwladol| ]]