Hizb al-Nahda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B typos |
dolen |
||
Llinell 4:
Cafodd ei sefydlu yn wreiddiol dan yr enw ''Action islamique'', wedyn newidiodd ei henw i Fudiad y Tuedd Islamig, ac wedyn yn [[1989]] i ''Hizb al-Nahda''.<ref>''Columbia World Dictionary of Islamism'', Olivier Roy a Antoine Sfeir, gol., 2007, tt.354-5</ref> Er iddynt ar y dechrau arddel syniadau [[Sayyid Qutb]] a [[Maududi]], o'r 1980au ymlaen dechreuasant eu disgrifio eu hunain fel "plaid Islamig gymhedrol". Dywedant eu bod o blaid [[democratiaeth]] a ffurf "Tunisiaidd" ar [[Islamiaeth]] a fyddai'n cydnabod [[lluosogaeth wleidyddol]]. Galwant hefyd am drafod gyda'r [[Y Gorllewin|Gorllewin]]. Fodd bynnag, maent yn gwrthod syniadau arferol y Gorllewin am natur democratiaeth ryddfrydig ac am weld [[cyfansoddiad]] gwaelodol Islamaidd yn lle'r un [[seciwlariaeth|seciwlar]] presennol yn Tunisia. Mae rhai wedi cyhuddo un o'i phrif arweinwyr, [[Rashid Al-Ghannushi]], o fod a hanes o gefnogi trais, ac eto y prif gyhuddiad yn ei erbyn gan [[llywodraeth Tunisia]] oedd trefnu plaid wleidyddol anghyfreithlon.
Ar ddiwedd y 1980au a dechrau'r ddegawd olynol cyhoeddai'r blaid bapur newydd anghyfreithlon, ''Al-Fajr''. Cafodd golygydd ''Al Fajr'', Hamadi Jebali, ei ddeddfrydu i 16 mlynedd o garchar yn [[1992]] am berthyn i grŵp gwaharddedig ac am "gynllwynio
Cafodd canoedd o aelodau a chefnogwyr y blaid eu harestio a charcharu. Ar [[27 Chwefror]] [[2006]], fel rhan o [[amnesti]] cyffredinol i [[carcharor gwleidyddol|garcharorion gwleidyddol]], rhyddhawyd nifer o'r carcharorion hyn ar orchymyn [[Zine Abedine Ben Ali]], Llywydd Tunisia.<ref>[http://www.nawaat.org/forums/index.php?showtopic=10727&pid=33142&mode=threaded&show=&st=& Erthygl ar www.nawaat.org]</ref>
Llinell 12:
==Dolenni allanol==
* {{eiconiaith|Arabeg}} [http://www.nahdha.info/arabe/index.php Gwefan swyddogol al-Nahda]
* {{eicon en}} [http://meria.idc.ac.il/journal/1997/issue2/jv1n2a7.html erthygl gan MERIA]
* {{eicon en}} [http://scholar.google.com/scholar?hl=en&lr=&safe=active&q=cache:IZvitYeEzCMJ:www.biu.ac.il/SOC/besa/meria/journal/1998/issue2/sivan.pdf+Tunisian+renaissance+party Erthygl gan Emmanuel Sivan] Ffeil [[PDF]] |