Hizb al-Nahda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dolen
llun
Llinell 2:
[[Plaid wleidyddol]] [[Islam]]ig waharddedig yn [[Tunisia]] yw '''Hizb al-Nahda''' neu '''Hizb Ennahda''' ([[Arabeg]] النهضة "Plaid y Dadeni"; [[Ffrangeg]], ''Parti de la Renaissance''). Ei llywydd presennol, mewn alltudiaeth, yw [[Rached Ghannouchi]].
 
[[Delwedd:Nahdha logo.gif|200px|bawd|Arwyddlun Hizb al-Nahda]]
Cafodd ei sefydlu yn wreiddiol dan yr enw ''Action islamique'', wedyn newidiodd ei henw i Fudiad y Tuedd Islamig, ac wedyn yn [[1989]] i ''Hizb al-Nahda''.<ref>''Columbia World Dictionary of Islamism'', Olivier Roy a Antoine Sfeir, gol., 2007, tt.354-5</ref> Er iddynt ar y dechrau arddel syniadau [[Sayyid Qutb]] a [[Maududi]], o'r 1980au ymlaen dechreuasant eu disgrifio eu hunain fel "plaid Islamig gymhedrol". Dywedant eu bod o blaid [[democratiaeth]] a ffurf "Tunisiaidd" ar [[Islamiaeth]] a fyddai'n cydnabod [[lluosogaeth wleidyddol]]. Galwant hefyd am drafod gyda'r [[Y Gorllewin|Gorllewin]]. Fodd bynnag, maent yn gwrthod syniadau arferol y Gorllewin am natur democratiaeth ryddfrydig ac am weld [[cyfansoddiad]] gwaelodol Islamaidd yn lle'r un [[seciwlariaeth|seciwlar]] presennol yn Tunisia. Mae rhai wedi cyhuddo un o'i phrif arweinwyr, [[Rashid Al-Ghannushi]], o fod a hanes o gefnogi trais, ac eto y prif gyhuddiad yn ei erbyn gan [[llywodraeth Tunisia]] oedd trefnu plaid wleidyddol anghyfreithlon.