Dorsal Tiwnisia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
rhyngwici
llun
Llinell 1:
'''Dorsal Tunisia''', neu'r '''Dorsal''' ([[Ffrangeg]] ''dorsale'', "asgwrn cefn"), yw prif gadwyn mynydd [[Tunisia]] yng [[Gogledd Affrica|Ngogledd Affrica]]. Mae'n estyniad dwyreiniol i gadwyn hir [[mynyddoedd yr Atlas]], sy'n cychwyn ym [[Moroco]] yn yr [[Atlas Uchel]] ac yn rhedeg drwy [[Algeria]].
 
[[Image:WSIS - Landschaft auf dem Weg von Hammamet nach Tunis (2005-11-18).JPG|250px|bawd|Rhan o'r Dorsal o'r draffordd [[Tunis]]-[[Hammamet]]]]
Mae Dorsal Tunisia yn rhedeg trwy ganolbarth gogledd Tunisia ar gwrs gogledd-ddwyreiniol o [[Tébessa]] ar y ffin ag Algeria hyd [[Zaghouan]] a mynydd [[Djebel Bou Kornine]] i'r de o [[Tunis]]. Mae'n cynnwys y pwynt uchaf yn y wlad, [[Jebel Chambi]] (1544m), i'r gorllewin o [[Kasserine]] a'r mynyddoedd i'r de-orllewin o [[El Kef]], yn cynnwys [[Bwrdd Jugurtha]]. Mae'r Dorsal yn gorffen mewn cyfres o fryniau isel yng ngorynys [[Cap Bon]].