Anton Bruckner: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Tudalen newydd: thumb|Anton Bruckner, llun gan Ferry Bératon, 1890 Cyfansoddwyr Awstraidd oedd '''Josef Anton Bruckner''' (4 Medi 1824 - [[11 Hyd... |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:Anton bruckner.jpg|thumb|Anton Bruckner, llun gan Ferry Bératon, 1890]]
Ganed ef ym mhentref [[Ansfelden]], yr hynaf o unarddeg o blant; roedd ei dad, hefyd Anton Bruckner, yn ysgolfeistr. Roedd canu'r organ yn rhan o ddyletswyddau ei dad fel ysgolfeistr, a dysgodd Anton yr organ yn ieauanc. Bu farw ei dad yn 1837. Wedi hyfforddi fel athro, bu Bruckner yn athro cynorthwyol ym mhentref Windhaag, ond aeth i drafferth trwy dreulio mwy o amser yn cyfansoddi cerddioriaeth nag yn gwneud ei waith, a symudwyd ef i [[Kronstorf]].
Treuliodd ddeng mlynedd fel athro yn ysgol Sankt Florian o 1845 i 1855, ac yn raddol datblygodd o fod yn athro i fod yn gerddor proffesiynol. Ymhlith ei weithiau pwysig cynnar mae'r ''Requiem'' (1848). Yn 1855 bu farw organydd eglwys gadeiriol [[Linz]], a chafodd Bruckner ei swydd. Yn y swydd yma, daeth i adnabod [[Otto Kitzler]], a gyflwynodd gerddoriaeth [[Richard Wagner]], a gafodd ddylanwad mawr arno. Perfformiwyd ei [[symffoni]] gyntaf am y tro cyntaf yn 1868.
Yn 1868, symudodd i [[Fienna]] i fod yn Athro yn y ''Konservatorium'' yno. Bu ar daith i roi perfformiadau ar yr organ yn [[Nancy]] a [[Paris]] yn 1869 a [[Llundain]] yn 1871. Cyfansoddodd gyfres o simffoniau, a gafodd dderbyniad cymysg, gyda rhai beiriniaid yn elyniaethus iawn. Cafodd ei 7fed Simffoni yn 1884 well derbyniad, a daeth nifer o anrhydeddau i'w ran yn y blynyddoedd nesaf. Bu farw yn Fienna yn 1896.
|