Diwydiant copr Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cystrawen
cystrawen
Llinell 3:
[[Delwedd:Parys Mountain Wikipedia.jpg|250px|bawd|[[Mynydd Parys]]]]
Bu'r Rhufeiniaid hefyd yn cloddio am gopr, er enghraifft ar Fynydd Parys a Phen y Gogarth.
Dechreuodd mwyngloddio ar raddfa fawr ym Mynydd Parys yn [[1768]], ganpan ddarganfuwyd gwythïen fawr o gopr yno. Erbyn y [[1780au]] Mynydd Parys oedd yn cynhyrchu'r mwyafrif o gopr y byd. Erbyn [[1778]] roedd y cwmni yn cael ei redeg gan [[Thomas Williams, Llanidan]], a ddaeth yn un o ddiwydianwyr mwyaf ei gyfnod.
 
Yn y blynyddoedd cynnar, roedd y copr yn cael ei weithio oddi ar yr wyneb, ond yn ddiweddarach o siafftiau. Roedd y darnau o graig yn cynnwys y copr wedyn yn cael eu malu'n ddarnau llai â morthwyl gan ferched, y "Copr Ladis", cyn cael ei yrru o borthladd Amlwch i borthladd [[Abertawe]] i'w smeltio, neu weithiau i [[Swydd Gaerhirfryn]]. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif roedd poblogaeth Amlwch wedi cynyddu i tua 10,000, gan ei gwneud yr ail dref yng Nghymru ar ôl [[Merthyr Tudful]]. Estynwyd yr harbwr gwreiddiol i wneud lle i longau mwy ar gyfer y fasnach cludo mwyn copr.