Mynyddoedd yr Atlas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 20:
{{prif|Atlas Uchel}}
 
Mae'r '''Atlas Uchel''' yng nghanolbarth [[Moroco]] yn codi yn y gorllewin ger arfordir [[Cefnfor Iwerydd]] ac yn ymestyn i gyfeiriad y dwyrain i'r ffin rhwng Moroco ac Algeria. Yn y gorllewin a'r de-orllewin mae'r gadwyn yn disgyn yn sydyn gan ffurfio'r [[Anti-Atlas]] ger yr arfordir. I'r gogledd, i gyfeiriad [[Marrakech]], mae'r disgyniad yn fwy graddol. [[Jbel Toubkal]] (4167 m) yw'r copa uchaf.
 
Ar gopaon [[Ouarzazate]] torrir trwy'r ''massif'' gan [[Dyffryn Draa]], sy'n ymagor i'r de. Yma ceir golygfeydd trawiadol gyda chreigiau garw a ceunentau dwfn. Dyma un o ganolfannau y [[Berberiaid]], sy'n byw mewn pentrefi bychain a dilyn bywyd amethyddol, e.e. yn [[Dyffryn Ourika|Nyffryn Ourika]].